CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Castell

Morgan Tomos

Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth yn y Castell

Pris arferol £2.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Morgan Tomos

ISBN: 9781847714060
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Mai 2016
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Darluniwyd gan Morgan Tomos
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 200x210 mm, 24 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Alun yr Arth yn ymweld â chastell gyda'i fam a'i dad. Ond yn lle cael gwers hanes ddiflas, mae'n darganfod rhywbeth cyffrous iawn. Dyma'r 14eg llyfr gan Morgan Tomos am Alun yr Arth ers 2001, sy'n brawf o'i boblogrwydd aruthrol. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2011.

Gwybodaeth Bellach:
Alun yr Arth yn Cwrdd â’i Arwr Owain Glyndŵr

Naws hanesyddol sydd yn y llyfr diweddaraf yng Nghyfres Alun yr Arth, pan mae Alun druan yn cael ei lusgo, o’i anfodd, i ymweld â chastell gyda’i fam a’i dad. Alun yr Arth yn y Castell yw’r 15fed llyfr yn y gyfres erbyn hyn, ac mae’r arth fach ddrygionus yn dal i fod mor boblogaidd ag erioed.

Unwaith eto, mae Morgan Tomos, awdur ac artist y storïau, yn pwysleisio ac yn hybu Cymreictod y cymeriad. Ar ôl bod yn chwarae rygbi dros Gymru yn Alun yr Arth a’r Gêm Fawr a siarad Cymraeg gyda Phobol Bach Gwyrdd yn Alun yr Arth yn y Gofod, mae Alun yn cael cwrdd ag Owain Glyndŵr y tro hwn, a’i helpu i ymosod ar gestyll a’u gorchfygu. Rhaid i Alun ymladd yn erbyn ‘brenin a brenhines Lloegr’ ac mae’n dod o hyd i drysor mwyaf gwerthfawr Cymru. Ar ddiwedd yr antur mae’n dod i’r casgliad nad yw hanes yn ddiflas, wedi’r cyfan!

Gyda thros 400 o gestyll, does ryfedd fod Cymru’n cael ei galw’n ‘wlad y cestyll’. Mae plant o bob cornel o’r wlad yn gyfarwydd â chestyll ac yn gallu cael mynediad hawdd i olion hanesyddol ac uniaethu â stori Alun yr Arth. Mae trysorau gwerth chweil ar gael ar ein stepen drws, fel gwnaeth Alun ddarganfod yn y llyfr diweddaraf yng Nghyfres Alun yr Arth.

Yn ôl yr awdur: “Mae cestyll yn ddiddorol ond rhaid cofio pam y codwyd nhw yn y lle cyntaf. Dyna’r syniad tu ôl i’r stori hon.”

Ychwanegodd Garmon Gruffudd o’r Lolfa: "Ychydig o lyfrau i blant sydd yn trafod cestyll yn Gymraeg ac o safbwynt Cymreig. Y gobaith yw y bydd sefydliadau fel Cadw yn fodlon gwerthu’r llyfr.”