CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Amdani: Am Ddiwrnod!

Y Lolfa

Cyfres Amdani: Am Ddiwrnod!

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Margaret Johnson
ISBN: 9781784615567
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Mawrth 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Meinir Wyn Edwards
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Mae'r nofel yn sôn am ddiwrnod ym mywyd Sophie, sydd ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm, ond mae nifer o ddigwyddiadau yn ei rhwystro rhag cyrraedd y set. Mae'n gorfod ymweld â swyddfa'r heddlu sawl gwaith, ond does dim ots ganddi, oherwydd mae'n ffansïo'r plismon yno!
A book for Welsh leaners, Entry Level. This is a humorous romance about one memorable day in the life of Sophie Reynolds, film extra. A Welsh adaptation of Big Hair Day by Meinir Wyn Edwards.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Meinir yn gweithio fel golygydd yn Y Lolfa. Mae'n byw yn Llandre, Ceredigion.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma'r nofel gyntaf, Lefel Dechreuwyr/Mynediad, hyd at Uned 8. Addasiad ydy hi o nofel Margaret Johnson, Big Hair Day, a gyhoeddwyd fel rhan o gyfres y Cambridge Readers i rai Saesneg ail iaith. Nofel ramant, gyda digon o hiwmor ynddi, wedi'i hanelu at y rhai sy'n dechrau dysgu Cymraeg. Hon fydd y nofel gyntaf yn y Gymraeg i'r dysgwyr ei darllen.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan y Cyngor Llyfrau ac mae 4 gwasg yn cyhoeddi 5 llyfr yr un. Mae cydweithio agos hefyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae'r llyfrau'n cydymffurfio gyda'r cwricwlwm newydd. Mae lefelau llyfrau'r prosiect yn cydymffurfio â lefelau dysgu ail iaith Ewrop.