CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres Pen Dafad: Breuddwyd Siôn Ap Rhys

Haf Llewelyn

Cyfres Pen Dafad: Breuddwyd Siôn Ap Rhys

Pris arferol £3.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Haf Llewelyn

ISBN: 9781847718419
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Chwefror 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4
Fformat: Clawr Meddal, 185x123 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel hanesyddol am ddau frawd yn byw mewn tlodi gyda'u ewythr creulon ac yn ceisio dod o hyd i wybodaeth am eu mam a gyhuddwyd o fod yn wrach, ac a garcharwyd. Mae Haf wedi cyhoeddi sawl nofel hanesyddol i oedolion ac i blant, gan gynnwys Diffodd y Sêr am hanes y bardd Hedd Wyn.

Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd a magwyd Haf Llewelyn yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, ond erbyn hyn mae hi’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala. Mae gwasg y Lolfa wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion ganddi, sef Y Graig a Mab y Cychwr.
Gwybodaeth Bellach:
Nofel hanesyddol newydd i’r arddegau gan Haf Llewelyn “fyddai wedi plesio T. Llew Jones”

Yn ôl Bethan Gwanas, mi fyddai nofel ddiweddaraf Haf Llewelyn i blant a phobl ifanc wedi plesio’r nofelydd a’r bardd enwog T. Llew Jones.

Cyhoeddir Breuddwyd Siôn ap Rhys gan wasg y Lolfa fel rhan o gyfres Pen Dafad, cyfres sydd wedi’i hanelu at ddarllenwyr yn eu harddegau cynnar yn ogystal â darllenwyr da ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd. Nofel hanesyddol yw Breuddwyd Siôn ap Rhys sy’n dilyn helyntion dau frawd o Feirionnydd yn 1590. Gorfodir y ddau i fyw gyda’u hewythr creulon ar ôl i’w mam gael ei chyhuddo o fod yn wrach a’i chloi mewn carchar yn Nolgellau.

“Mi wnes i fwynhau hon - mae cyfnod y Tuduriaid yn gyfnod oedd yn bendant angen sylw yn y nofel Gymraeg,” meddai Bethan Gwanas wrth adolygu’r nofel ar ei blog newydd (www.gwanas.wordpress.com).

“Fe fydd athrawon yn sicr yn falch iawn o’i gweld. Mae Haf Llewelyn yn dod â’r cyfnod yn fyw, a dwi’n siŵr y bydd yn cydio yn nychymyg y darllenwyr. Ro’n i’n hoffi’r cymeriadau’n arw, yn enwedig Wmffra, y brawd bach sydd â gallu rhyfedd i drin anifeiliaid.”

“Mi fyddai T Llew Jones wedi mwynhau hon,” ychwanega Gwanas. “Roedd hi’n hen bryd cael nofel hanesyddol, llawn antur ar gyfer yr oedran yma, ac mi ddylai hon fod yn boblogaidd iawn.”

Dyma ail nofel hanesyddol Haf Llewelyn i blant a phobl ifanc, yn dilyn cyhoeddi Diffodd y Sêr y llynedd. Mae’r nofel yn adrodd stori ysgytwol bardd enwocaf Cymru, Hedd Wyn, a hynny drwy lygaid ei chwaer Anni.

“Dw i’n meddwl fod nofelau hanes yn brin i blant, sydd yn bechod achos mae stori fach yn ffordd dda o gyflwyno cyfnod hanesyddol,” meddai Haf, sy’n gweithio fel athrawes ymgynghorol. “O’m profiad i, hefyd, mae'n anodd i ysgolion gael deunydd addas i gyflwyno hanes.

“Wrth wneud cyfnod y Tuduriaid efo'r plant wnes i ’sgwennu Breuddwyd Siôn ap Rhys,” ychwanega’r awdures. “Roedd hi'n broses braf iawn, achos o’n i’n cael eu hymateb i bob pennod - ro’n i’n ’sgwennu pennod ar gyfer pob wythnos, ac yn newid y cynllun yn ôl ymateb y plant.”