CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cyfres yr Onnen: Y Cwestiwn Mawr

Meinir Pierce Jones

Cyfres yr Onnen: Y Cwestiwn Mawr

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Meinir Pierce Jones

ISBN: 9781847712134
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Mawrth 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 174 tudalen
Iaith: Cymraeg

Caerdydd, sir Fôn, Lerpwl, cloc, dirgelwch y fan goch, pasbort ac arian yn cael eu dwyn - dyna ddechrau ar antur i Dan pan aiff i aros gyda'i Yncl Roli tra mae ei fam ar daith ym Mheriw. Nofel addas i ddarllenwyr da 9 i 13 oed gan awdures brofiadol yn y maes.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Meinir Pierce Jones yn awdur pentwr o lyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae hi’n byw mewn ffermdy yn Nefyn, Pen Llŷn gyda’i theulu.
Gwybodaeth Bellach:
Dod o hyd i ateb Y Cwestiwn Mawr mewn “thriller” llawn tensiwn

Dan, bachgen 13 oed, sy’n ceisio dod o hyd i’r ateb i’r “Cwestiwn Mawr” yn nofel newydd Meinir Pierce Jones. Y Cwestiwn Mawr yw’r nofel ddiweddaraf yng Nghyfres yr Onnen i blant 9 i 13 oed gan wasg y Lolfa. Aiff Dan i aros gyda’i Yncl Roli yn Sir Fôn tra mae ei fam ym Mheriw fel rhan o’i gwaith gyda Masnach Deg. O Sir Fôn, mae’r ddau’n teithio i Lerpwl, ac yno mae eu problemau’n dechrau – fan yn eu dilyn, pasbort ac arian yn cael eu dwyn, Dan yn mynd ar goll, dynes ryfedd o wlad Pwyl, dau ddyn Asiaidd rhyfeddach fyth, a Roli’n cael ei daro’n wael. Ar ei diwedd mae darganfyddiad a fydd yn newid taith bywyd Dan am byth wrth iddo gael ateb i’r Cwestiwn Mawr o’r cyfeiriad mwyaf annisgwyl posib.

Dywedodd Meinir Pierce Jones, “Roeddwn i am sgwennu stori gyflym, debyg i 'thriller', fodern efo digon o densiwn a drama. Mi wnes i roi cefndir dinesig iddi a Lerpwl ydi'r ddinas yn y stori. Mae gen i 5 nai, ac felly ro'n i’n gobeithio cael stori fyddai'n denu hogiau fel nhw. Mae'r llyfr yn cynnwys llawer o wahanol deithiau ym mywyd Dan. Ro'n i am sgwennu stori fyddai'n cadw trwyn y darllenydd ifanc yn y llyfr.”
Ychwanegodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa, “Nôd cyfres yr Onnen yw llanw bwlch amlwg yn y farchnad lyfrau, sef nofelau gafaelgar a heriol gyda digon o swmp i blant dan 13 oed. Mae’r gyfres wedi profi yn eithriadol o lwyddiannus gyda phedair cyfrol o’r gyfres ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2010, ac mae yna nifer o nofelau ardderchog ar y gweill.”