CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dan Ddylanwad

John Alwyn Griffiths

Dan Ddylanwad

Pris arferol £7.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: John Alwyn Griffiths

ISBN: 9781845274344
Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 182x124 mm, 360 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Medi 2013
Pan ddaw Elen Thomas i ddeall fod rhywun wedi bod yn torri i mewn i ffermdy unig ei modryb ym mherfeddion nos er mwyn ei dychryn, nid at yr heddlu mae hi'n troi. Meurig Morgan lwyddodd i ddatrys dirgelwch marwolaeth ei gŵr bum mlynedd ynghynt - ond y tro yma, fydd o'n tynnu blewyn o'r trwyn anghywir?
Bywgraffiad Awdur:
Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, a bu’n heddwas hyd ddiwedd 2008. Cyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Pleserau’r Plismon, yn 2011 a’i nofel gyntaf, Dan yr Wyneb, yn 2012. Mae’n brysur yn ysgrifennu ei drydedd nofel.
Gwybodaeth Bellach:
Dod o hyd i lais y trais a’r tywyllwch

Mae awdur nofel dditectif newydd yn dweud ei fod yn teimlo iddo bellach ddarganfod ei‘lais’ fel awdur.

Dan Ddylanwad yw ail nofel y cyn-blismon, John Alwyn Griffiths, a gyda thrydedd wedi ei chwblhau a phedwaredd wedi ei chychwyn, mae’n amlwg fod gan y llais hwnnw ddigon i’w ddweud.

Mae Griffths, sy’n wreiddiol o Fangor ond rwan yn byw yn Sir Fôn, yn amlwg yn gyfforddus yn ysgrifennu am fyd trosedd a chosb. Ond mae cyffyrddiadau mwy teimladwy hefyd wrth i’r berthynas rhwng rhai o’r cymeriadau gymryd cam ymlaen.

Mae Dan Ddylanwad, yn ymweld unwaith eto â chymeriadau ei nofel gyntaf - Meurig Morgan ac Elen Thomas, ac yn cyflwyno prif gymeriad newydd fydd i’w weld yn y drydedd nofel - ditectif anghonfensiynol o’r enw Jeff Evans.

Y tro hwn, mae ar Elen Thomas angen help y ddau arall i ddatrys dirgelwch digwyddiadau rhyfedd sy’n diweddu mewn marwolaeth amheus hen fodryb iddi. Ond dim ond y dechrau yw hyn.

Cyn mentro i fyd nofelau, cyhoeddodd John Alwyn Griffiths lyfr Pleserau’r Plismon, sef storïau hunangofiannol o’i yrfa gyda Heddlu Gogledd Cymru. Camodd wedyn i fyd y nofel dditectif gan ddefnyddio gyrfa oes gyda’r heddlu ac yn arbennig ei gyfnod fel pennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru fel sail a ffynhonnell syniadau. Mae’n amlwg ei fod wedi canfod cyfrwng sy’n gweddu yn berffaith i’w gefndir a’i ddiddordebau.

Gwasg Carreg Gwalch sydd wedi cyhoeddi ei holl lyfrau. Meddai Myrddin ap Dafydd, Rheolwr Gwasg Carreg Gwalch: “Gellid disgrifio’r nofel fel nofel dditectif gyda llond llaw o’r arswydus. Mae’n mynd â’r darllenydd ar daith droellog o ddigwyddiadau tywyll, dychrynllyd a chignoeth. A’r munud y dechrau’r darllenydd ymlacio gan feddwl ei fod yn gwybod trywydd y stori, caiff ei daflu i drobwll o gyffro ac yn sydyn mae’r nofel yn mynd ar garlam wrth ddatgelu gorffennol tywyll a chynlluniau barus, bygythiadau, ymosodiadau a thrais.