CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dan Ewyn y Don

John Alwyn Griffiths

Dan Ewyn y Don

Pris arferol £7.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: John Alwyn Griffiths

ISBN: 9781845274825
Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 184x124 mm, 346 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn dilyn llwyddiant Dan yr Wyneb a Dan Ddylanwad, dyma drydedd nofel John Alwyn Griffiths am dref Glan Morfa a'i thrigolion. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2014.

Bywgraffiad Awdur:
Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, a bu’n
heddwas hyd ddiwedd 2008. Cyn ymddeol roedd yn
bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru.

Cyhoeddodd ei hunangofiant, Pleserau’r Plismon, yn 2011
a’i nofel gyntaf, Dan yr Wyneb, yn 2012 a Dan Ddylanwad yn 2013.
Gwybodaeth Bellach:
Ar ôl treulio dwy flynedd ar secondiad ym Mhencadlys yr heddlu, mae’r Ditectif Jeff Evans yn ôl yn nhref Glan Morfa − a does dim llonydd i’w gael.

O fewn dyddiau i’w gilydd, mae un o gychod pysgota’r ardal yn ffrwydro yn y bae a darganfyddir corff merch ifanc ar un o lonydd gwledig yr ardal. Dwy ddamwain anffodus, tybed? Nid yn ôl greddf Jeff. Pwy sy’n berchen ar y car mawr du a welwyd o amgylch y dref? Ac a oes cysylltiad â pherchnogion anhysbys Plas y Fedwen?

Gyda chymorth yr heddferch Meira Lewis, arweinir y ditectif penderfynol ar antur gyffrous a dirgel at y gwir.

‘Dyma beth yw chwip o stori. O’r agoriad i’r clo mae’r stori’n cydio ... ac yn gwrthod gollwng gafael.’
Lyn Ebenezer, adolygiad ar Gwales.com