CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Glyn Tomos
ISBN: 9781845277840
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Tachwedd 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 216x137 mm, 236 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma hunangofiant y bu hir ddisgwyl amdano gan fab i chwarelwr a ddaeth yn ffigwr amlwg yn y frwydr dros yr iaith Gymraeg a dyfodol cymunedau Cymreig.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mae Glyn Tomos yn ddyn y mae parch mawr iddo fel gŵr o ddaliadau cryf dros ddyfodol Cymru a'r bröydd Cymraeg, ac un yn meddu ar angerdd am ein bywyd cymunedol a cherddoriaeth Gymraeg.
Yn un sy'n fodlon sefyll yn y bwlch dros yr hyn mae'n ei gredu, cawn ddod i ddeall lle y magodd y gwrhydri yma wrth iddo ddarlunio bywyd ar aelwyd gyffredin a chynnes ym mhentref chwarelyddol Dinorwig yn y 50au a'r 60au.
Cawn weld sut y daeth yn ymgyrchydd iaith blaenllaw, angerdd a ddaeth i'r amlwg yn ystod ei gyfnod cythryblus fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn y 70au. Codir y clawr hefyd ar ei brofiadau difyr yn olygydd y cylchgrawn pop enwog, Sgrech ymysg cyhoeddiadau eraill.
Ac yntau wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Ngwynedd am ddeugain mlynedd, mae'r gyfrol afaelgar hon yn cynnig darlun cofiadwy ohono fo a'r gymuned y mae'n ei charu a'i thrysori gymaint.