CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Enwau Cymraeg i Blant/Welsh Names for Children

Heini Gruffudd

Enwau Cymraeg i Blant/Welsh Names for Children

Pris arferol £5.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Heini Gruffudd

ISBN: 9781847712196 
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Mehefin 2010
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 115x165 mm, 192 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Dewiswch enw Cymraeg - a dewiswch drwy ddefnyddio'r llyfr hwn! Erbyn hyn, mae'r llyfr hynod boblogaidd hwn wedi'i ymestyn a'i adolygu a'i ailddylunio mewn dau liw, ac yn cynnwys lluniau newydd. ISBN yr argraffiad blaenorol (a gyhoeddwyd yn 2003): 9780862436421.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Heini Gruffudd wedi sgwennu nifer o lyfrau i ddysgwyr. Fe'i magwyd yn Abertawe ac yno mae'n byw o hyd. Mae ar flaen y gad yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg.
Gwybodaeth Bellach:
Mae'n fwy o hwyl nag erioed i'w defnyddio, naill ai i enwi plentyn neu i fwynhau cwmni arwyr, saint, beirdd a thywysogesau Cymru.

*********************************

Enwau Newydd Gwreiddiol ac Anarferol i Blant Mewn Llyfr Newydd

Mae’r Lolfa newydd ryddhau argraffiad newydd o’r gyfrol Enwau Cymraeg i Blant. Y llynedd galwodd y wasg ar y cyhoedd i awgrymu enwau newydd i’w cynnwys yn y llyfr newydd i sicrhau fod y gyfrol yn cynnwys unrhyw enwau nad oedd yn yr hen argraffiad. Roedd Y Lolfa hefyd yn awyddus i’r gyfrol adlewyrchu'r tueddiadau diweddaraf wrth enwi plant yn Gymraeg. Cafwyd ymateb brwdfrydig iawn gyda dwsinau o enwau gwreiddiol ac anarferol yn cael eu cynnig. Ymhlith yr enwau newydd i fechgyn mae Eban, Manaw, Cynwyn ac Eirwg, ac i ferched Saran, Nanw, Trofana, Eldeg a Dolgain. Mae’r gyfrol sydd wedi ei ddylunio yn ddeniadol mewn dau liw yn cynnwys yr holl enwau poblogaidd traddodiadol.