CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Fflur a Fflach a'r Hwla Hud

Gomer

Fflur a Fflach a'r Hwla Hud

Pris arferol £4.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Chloe Inkpen, Mick Inkpen
ISBN: 9781848518186
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Mehefin 2014
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Mick Inkpen
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mari Lovgreen
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 257x255 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Stori hyfryd am Fflur a'i chi bach direidus, Fflach. Maen nhw wrthi'n chwarae gyda chylch hwla ond heb yn wybod iddyn nhw, mae'r cylch hwla'n troi i fod yn hwla hud ac mae pob math o bethau rhyfeddol yn dechrau digwydd.
Bywgraffiad Awdur:
Cyflwynydd teledu ydy Mari Lovgreen, o Gaernarfon yn wreiddiol ac yn byw erbyn hyn ar fferm yn Llanerfyl, y Trallwng. Ei swydd gyntaf oedd cyflwyno Uned 5 ar S4C ac ers hynny mae hi wedi cyflwyno Waa!!, Y Briodas Fawr ac mae hi’n un o ohebwyr Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol. Dyma’r stori gyntaf iddi addasu i’r Gymraeg.
Gwybodaeth Bellach:
O fynd drwy’r hwla hud, mae Fflach yn troi’n wningen gyda chlustiau mawr, llygoden fach, crocodeil ac yna’n eliffant mawr iawn. Ond mae yna broblem – mae’r eliffant yn rhy fawr i ddod yn ôl drwy’r cylch hud. Rhaid iddo fynd ar ddeiet ond mae’n sglaffio’r siocled gan hollti’r hwla hud ond daw Fflach yn Fflach unwaith eto ar ddiwedd y stori hyfryd hon.