Awdur: D. Geraint Lewis
ISBN: 9781848517684
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Cyhoeddwr: Gomer, Aberystwyth
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Caled, 253x170 mm, 68 tudalen
Iaith: Cymraeg
Yn y geiriadur lliw newydd hwn ar gyfer plant 7-8 oed ceir 1000 o ddiffiniadau a thua cant o luniau. Cyflwynir enwau (unigol a lluosog), ffurfiau cwmpasog cymharu ansoddeiriau a rhannau ymadrodd Cymraeg gan adeiladu ar gynnwys y geiriadur blaenorol, Geiriadur Pinc a Glas Gomer, ar gyfer plant 6-7 oed. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2014.
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, yw D. Geraint Lewis ac mae ei ddiddordeb mewn iaith a gramadeg yn ddiarhebol ac yn heintus. Cyhoeddodd nifer o eiriaduron a llyfrau gramadeg ac hefyd casgliad o garolau, caneuon gwerin a llyfr o ffeithiau unigryw. Ef yw awdur Geiriadur Cynradd Gomer, Mewn Geiriau Eraill :Thesawrws i Blant a Geiriadur Gomer i’r Ifanc ac fel geiriadurwr o’r radd flaenaf, mae ganddo’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth sy’n sylfaen gadarn i gyfres o eiriaduron i blant.