CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Geiriau Gorfoledd a Galar

D. Geraint Lewis

Geiriau Gorfoledd a Galar

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: D. Geraint Lewis

ISBN: 9781785620744 
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Chwefror 2020
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 183x124 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad o ddarnau o lenyddiaeth, rhai wedi eu cyfansoddi'n wreiddiol yn Gymraeg, eraill wedi eu cyfieithu o ieithoedd eraill, yn arbennig ar gyfer yr achlysuron pwysig hynny ym mywydau pob un. Mae'r gyfrol yn cynnwys pytiau addas i'w darllen neu i'w rhoi mewn cerdyn adeg geni, priodi a marw.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, yw D. Geraint Lewis. Llyfrgellydd ydyw o ran ei alwedigaeth; gwnaeth gyfraniad enfawr i'n diwylliant yn ei fywyd proffesiynol ac fel aelod o rai o gyrff llywodraethol Cymru – yn arbennig felly Cyngor Llyfrau Cymru. Ers blynyddoedd, bu'n byw a gweithio yng Ngheredigion; mae ef a'i wraig Delyth yn byw yn Llangwyryfon ger Aberystwyth.
Mae Geraint yn awdur toreithiog ac mae ei weithiau niferus yn cynnwys geiriaduron, llyfrau gramadeg a chasgliadau diddorol ac amrywiol sy'n torri tir newydd yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfrol o ganeuon gwerin, casgliad o garolau a llyfr o ffeithiau unigryw. Yn ogystal â bod yn llyfrbryf o ieithgi a chwilotwr o fri, y mae hefyd yn gerddor da ac yn ei amser hamdden bydd yn mwynhau canu'r corn Ffrengig.


Gwybodaeth Bellach:
Tybed sawl gwaith y cawsoch chi drafferth dod o hyd i'r peth iawn i'w ddweud ar achlysur arbennig? Dyna brofiad pob un ohonom ar ryw adeg neu'i gilydd, mae’n siŵr: sut mae mynegi llawenydd ar adegau o orfoleddu, cydlawenhau a dathlu; a mynegi tristwch ar adegau o rannu gofid, galar ac ansicrwydd? Sut wedyn y mae cynnig gobaith a chysur ar adegau pan fydd angen annog eraill i ddal ati?
Yn y casgliad unigryw hwn o farddoniaeth a rhyddiaith, mae modd dod o hyd i'r union air a'r union deimlad ar gyfer pob cam ar hyd siwrnai bywyd – 'o gri ein geni hyd ein holaf gŵyn'.
Dyma gyfrol anhepgorol i rai sy'n cymryd rhan mewn achlysuron cyhoeddus – pan fydd galw ar rywun i ddweud gair doeth mewn bedydd, priodas neu angladd, mewn parti pen-blwydd arbennig neu ar adeg ymddeol. Mae yma hefyd ddigonedd o ddyfyniadau priodol i'w hysgrifennu ar gerdyn – geiriau o gadernid, o lawenydd ac o gysur ar gyfer holl droeon mawr bywyd.
Ond cewch rhwng y cloriau hyn hefyd drysorau i dreulio orig dawel ar eich pen eich hun yn eu cwmni. Yn wir, unrhyw adeg y bydd arnoch angen gair yn ei bryd – boed ar achlysur mawr cyhoeddus neu mewn ennyd bersonol – dyma’r llyfr i chi.