CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Gwenwyn a Gwasgod Felen

Haf Llewelyn

Gwenwyn a Gwasgod Felen

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Haf Llewelyn

ISBN: 9781845276508
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Hydref 2018
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 152 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae ffermwyr Llanuwchllyn 1860 yn dlawd, ac mae'n rhaid iddyn nhw dalu'r Degwm. Dyma nofel am bobl gyffredin yn codi llais.

Tabl Cynnwys:
Pan adawyd Daniel a'i chwaer Dorothy yn amddifad, roedd pethau'n edrych yn dywyll iawn i'r ddau. Y wyrcws, oedd yr unig ateb i dlodion – lle ofnadwy, lle'r oedd tlodion yr ardal yn gorfod gweithio'n torri cerrrig am eu bwyd. Wedyn mae Daniel yn cael gwaith efo Mr Thomas y fferyllydd yn siop yr Apothecari, ac mae wrth ei fodd.

Ond ynghanol y tabledi, y ffisig a'r jariau o bob lliw a llun, ceir un botel fechan, wenwynig y mae'i chynnwys yn bygwth dyfodol Daniel ...
Bywgraffiad Awdur:
Dyma nofel wedi ei gosod mewn cyfnod cythryblus yn hanes Cymru – cyfnod o annhegwch cymdeithasol a phŵer enfawr y meistri tir dros eu tenantiaid. Roedd yn gyfnod hefyd pan adawodd miloedd o Gymry eu gwlad i chwilio am fywyd tecach a rhyddid barn.