CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Gwylliaid

Bethan Gwanas

Gwylliaid

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Bethan Gwanas

ISBN: 9781848517608
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Mawrth 2020
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 184 tudalen
Iaith: Cymraeg

Bachgen o'r de a hogan o'r gogledd yn teithio'n ôl mewn amser i gyfnod Gwylliaid Cochion Mawddwy. Dyma enillydd cyntaf Gwobr Goffa T. Llew Jones. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2014.

Bywgraffiad Awdur:
Merch ffarm o ardal Dolgellau. Astudiodd Ffrangeg yn y brifysgol cyn treulio dwy flynedd yn Nigeria, lle bu’n dysgu Saesneg gyda VSO. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 1985 ond yn 1995 y dechreuodd ysgrifennu o ddifri, a bellach, mae’n awdures brysur sydd hefyd yn cyflwyno rhaglenni teledu ar S4C. Mae’n byw mewn ty bach digon rhyfedd gyda’i gast goch gymreig, Del.
Gwybodaeth Bellach:
A hithau’n eira mawr ar ben Bwlch yr Oerddrws, mae Rhys a Mari’n cyffwrdd rhywbeth na ddylen nhw ac yn teithio’n ôl mewn amser o 2014 i 1554, i weld Gwylliaid Cochion Mawddwy yn ymosod ar deithiwr. Er i Rhys gredu ar y dechrau mai tric neu set ffilm ydi o, maen nhw’n sylweddoli bod hyn yn digwydd o ddifri ac yn ceisio dianc. Wrth reswm, does dim dianc rhag y Gwylliaid, ac maen nhw ( ac i-pad Rhys) yn cael eu llusgo’n ôl i ogof yn y mynyddoedd, lle maen nhw’n gorfod dygymod gyda ffordd o fyw wahanol iawn – a chawl cig wiwerod a brain!
Yn raddol, maen nhw’n dod i nabod y Gwylliaid: pobl fel Wil Coed, Sion Wyllt, Dorti’r wrach a’r bachgen ifanc, John Goch ac yn dysgu sut i hela a blingo ac ati, ond maen nhw’n rhoi ambell wers i’r Gwylliaid hefyd.
Ond mae’r Barwn Owen a’i ddynion yn erlid y Gwylliaid ac yn dal a chrogi 80 ohonynt, yn cynnwys Siencyn, hogyn bach direidus roedden nhw’n hoff iawn ohono.
Mae’r ddau’n cofio rhywfaint o hanes y Gwylliaid ac yn ceisio eu rhybuddio i beidio a dial ar y Barwn – ond yn ofer. Caiff y Barwn ei ladd, sy’n golygu bod yr awdurdodau am eu gwaed o ddifri yn awr.
Caiff y Gwylliaid eu chwalu, ac yn ôl y llyfrau hanes, dyna oedd eu diwedd, bob un. Ond pan lwydda Rhys a Mari i ddychwelyd i 2014, maen nhw’n gwybod yn wahanol...
Gwobrau:
Enillydd cyntaf Gwobr Goffa T. Llew Jones.
Winner of the inaugural T. Llew Jones memorial prize.