CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Hoff Gerddi Coffa Cymru

Gomer

Hoff Gerddi Coffa Cymru

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781848517097
Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2014
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Golygwyd gan Bethan Mair, Elinor Wyn Reynolds
Fformat: Clawr Meddal, 216x140 mm, 146 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad o ddewis pobol Cymru o'u hoff gerddi coffa. Dilyniant i'r cyfrolau Hoff Gerddi Natur CymruHoff Gerddi CymruMwy o Hoff Gerddi CymruHoff Gerddi Serch CymruHoff Gerddi Nadolig Cymru a Hoff Gerddi Digri Cymru. Ceir hen gerddi a cherddi newydd gan ystod o feirdd o wahanol rannau o Gymru yn y gyfrol.

Gwybodaeth Bellach:
Weithiau y mae cyfrol yn gwneud i amser sefyll yn ei unfan, cyfrol felly yw Hoff Gerddi Coffa Cymru.

Bydd y flodeugerdd deimladwy hon yn gwneud i chi oedi ennyd, ystyried a chofio.

Ond er hyn y mae Hoff Gerddi Coffa Cymru yn gyfrol sy’n dathlu hefyd ac yn bwrw golau dyrchafol ar yr eiliadau euraid: ar chwerthin, ar gariad, ar gwlwm perthyn, yr amserau hynny sy’n dangos i ni fod bywyd yn werth ei fyw, er bod dagrau’n gymysg â’r wên.

Y mae Hoff Gerddi Coffa Cymru yn gyfrol sy’n talu’r gymwynas olaf.
Ni cheir y melys heb y chwerw.