CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

I Botany Bay

Bethan Gwanas

I Botany Bay

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Bethan Gwanas

ISBN: 9781784611620
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Ionawr 2017
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x128 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Rhagfyr 2015
Dyma nofel hanesyddol uchelgeisiol a hynod ddarllenadwy fydd yn cadw'r darllenydd yn awchu am fwy. Dilynir hanes Cymraes go iawn o'r enw Ann Lewis, merch ifanc o deulu cyffredin o Ddolgellau a gafodd waith mewn siop deiliwr yn y dref cyn i'w chwymp ei chario ar daith gyffrous i ben draw'r byd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2015.
Bywgraffiad Awdur:
Bu disgwyl mawr am nofel newydd Bethan Gwanas o Frithdir ger Dolgellau yn wreiddiol.
Gwnaed ei nofel am hynt a helynt tîm rygbi merched, Amdani!, yn gyfres deledu boblogaidd ac yn ddrama lwyfan. Ymysg ei chyhoeddiadau eraill mae Dyddiadur Gbara; Cyfres Blodwen Jones ar gyfer dysgwyr; Llinyn Trôns; Sgôr i'r arddegau; Byd Bethan, a'r nofel fentrus, Gwrach y Gwyllt.
Gwybodaeth Bellach:
Mae'n dilyn hanes Cymraes go iawn o'r enw Ann Lewis, merch ifanc o deulu cyffredin a lwyddodd i gael gwaith mewn siop deiliwr yn y 19fed ganrif, ond yna daeth ei chwymp!
Mae'r nofel yn gyfuniad o wirionedd a dychymyg Gwanas ac yn dilyn cwymp Ann, a'r hyn a arweiniodd at hwnnw. Mae cariad a chenfigen yn ei harwain i ddwyn het o siop ei chyflogwr a chaiff ei dedfrydu i garchar yn Botany Bay, yn ôl arfer y cyfnod. Mae sawl tro annisgwyl ar hyd y daith dymhestlog a chyffrous hon.
Gwobrau:
Enillodd Bethan Gwanas wobrau niferus am ei nofelau i oedolion, pobol ifanc a phlant. Mae nofel newydd awdures Amdani! yn siŵr o fod yn boblogaidd ar gyfer y Nadolig.
Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith – y tro cyntaf yn 2001 am Llinyn Trôns a'r ail yn 2003 am y nofel Sgôr a gydysgrifennodd gyda chriw o ddisgyblion ysgol. Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw Fy Ffrind restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.