CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Llechi

Manon Steffan Ros

Llechi

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Steffan Ros

ISBN: 9781784619558 
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Tachwedd 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 184x123 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Gwenno wedi cael ei lladd. Gwenno berffaith, glyfar, brydferth - hi oedd yn boblogaidd efo'r swots a'r bobol cŵl. Darganfuwyd ei chorff yn y chwarel, a bellach mae'r cops dros bob man ym Methesda, a phawb yn ceisio dod o hyd iddi. Ond does ganddyn nhw fawr o obaith, dim â hwythau'n gwybod y nesaf peth i ddim am sut ferch oedd hi go iawn.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Manon yn awdur, dramodydd ac awdur gêmau llawn amser. Mae wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir nan-Og pedair gwaith (Trwy'r Tonnau yn 2010; Prism yn 2012; Pluen yn 2017 a Fi a Joe Allen yn 2019). Enillodd Llyfr Glas Nebo y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 a Llyfr y Flwyddyn yn 2019. Mae'n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Nhywyn.

Gwybodaeth Bellach:
Daw'n amlwg nad oedd hi'n ferch berffaith wedi'r cyfan...
Nofel gignoeth yn llawn dirgel sy'n mynd tu hwnt i ffug-barchusrwydd ac yn portreadu byd gwyllt, amherffaith pobl ifanc.