CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Mab y Cychwr

Haf Llewelyn

Mab y Cychwr

Pris arferol £7.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Haf Llewelyn

ISBN: 9781847714435
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Mai 2012
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg

 Llyfr y Mis: Mehefin 2012
Nofel hanesyddol. Dolgellau, 1603. Wedi blynyddoedd cythryblus mae Rhys ap Gruffydd wedi llwyddo i greu bywyd newydd tawel iddo'i hun fel cowmon y Nannau, ac mae yntau ac Wrsla, y weddw ifanc, yn deall ei gilydd. Ond mae'r drwgdeimlad rhwng teuluoedd bonheddig y Nannau a'r Llwyn eisioes wedi hawlio un bywyd diniwed. Daw'r hen fardd Siôn Phylip â newyddion o'r glannau.
Gwybodaeth Bellach:
Awdures o Ardudwy yn camu’n ôl mewn amser

Mae nofel hanesyddol newydd sy’n cael ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa yn tywys darllenwyr ar daith yn ôl mewn amser i Feirionnydd yr ail ganrif ar bymtheg ac i gyfnod o ramant, dirgelwch a drygioni di-ri.

Gan ychwanegu ffrwyth dychymyg at leoliadau, digwyddiadau a chymeriadau hanesyddol mae Mab y Cychwr gan Haf Llewelyn yn llwyddo i roi cnawd ar esgyrn sychion hanes a darparu gwledd i ddarllenwyr o bob math sydd wrth eu boddau’n ymgolli mewn stori ddifyr.

Dywed Haf, a gafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, ond sydd bellach yn byw yn Llanuwchllyn ger y Bala, “Dwi wrth fy modd gyda phob math o arwyddion o’r oes a fu, boed rheiny yn gromlechi ar ochr llethr neu hen dai bonedd. Roedd y syniad am y nofel yn fy mhen i ers sbel, roeddwn i eisiau ysgrifennu am y clerwyr a’r beirdd, ac yn benodol am Siôn Phylip, a foddodd ar ei ffordd yn ôl dros y môr o Bwllheli i Landanwg ar ôl bod ar daith glera. Wrth ymchwilio i hanes Siôn Phylip y dois i ar draws y cymeriad yma o’r Nannau, sef Huw Nannau Hen. Unwaith y dechreuais i ddarllen am weithgareddau lliwgar hwnnw, ac ymweld â’r plasty yn Llanfachreth ger Dolgellau, roeddwn i wedi fy rhwydo.”

Dywed Haf, “Mae hi’n nofel sydd wedi cymryd digwyddiad hanesyddol ac wedi adeiladu stori ddychmygol o gwmpas y digwyddiad hwnnw. Hanes y frwydr oedd yn digwydd yn y cyfnod i gael gwella eich statws yn y byd, a’r pwyslais mawr oedd yn cael ei roi ar dras a phŵer o fewn y gymdeithas; ac wrth gwrs, fel ym mhob oes, mae yna rywun yn siŵr o gael ei sathru wrth i’r pwerus ddangos eu dannedd.”

Nid dyma’r nofel gyntaf i Haf ei chyhoeddi. Yn 2010 fe gyhoeddodd Y Graig (Y Lolfa), sydd hefyd wedi’i lleoli yng nghalon Sir Feirionnydd ac sy’n adrodd hanes fferm nodweddiadol Gymreig sy’n wynebu argyfwng dilyniant wrth i’r genhedlaeth iau dorri eu cwys eu hunain. Mae natur cymeriad pobl yn gryf yn y ddwy nofel, ond yn wahanol i Y Graig mae Mab y Cychwr yn teithio nôl mewn amser, ac mae yma gyferbynnu gwleddoedd a chyfoeth y bonedd â hofelau a thlodi’r bobl gyffredin.

Mae bywydau byrlymus y cymeriadau lliwgar yn creu arddull ysgafn sy’n symud yn sydyn, ond mae harddwch naturiol Meirionnydd yn arafu’r rhediad o bryd i’w gilydd wrth i’r awdures ddisgrifio’r lleoliadau hynod.

Ychwanega Haf, “Mae rhywbeth braf mewn peidio â gorfod meddwl gormod – dim ond ymgolli yn y cyfnod, lleoliad a phobl. Efallai y bydd y nofel yn sbarduno ambell i un i ymchwilio mwy i hanes eu hardal hwy, neu ymweld â rhai o’r lleoliadau yma hyd yn oed.”

Dywed yr awdures adnabyddus Bethan Gwanas, “Mae’r cyfnod, y lleoliadau a’r cymeriadau mor hyfryd o fyw, do’n i ddim am iddi orffen – campwaith!”