Awdur: Mererid Hopwood
ISBN: 9781785620843
Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2015
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Caled, 189x130 mm, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg
Y casgliad cyntaf o gerddi i oedolion gan y Prifardd Mererid Hopwood. Mae Nes Draw ar rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.
Bywgraffiad Awdur:
Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001.
• Enillodd y Goron yn 2003 a'r Fedal Ryddiaith yn 2008 hefyd.
• Mae Mererid Hopwood wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin ers blynyddoedd.
• Fe'i ganed yng Nghaerdydd; derbyniodd ei haddysg gynnar yn ysgolion Bryntaf a Llanhari.
• Enillodd radd ddosbarth cyntaf mewn Sbaeneg ac Almaeneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth a doethuriaeth o Goleg y Brifysgol Llundain.
• Bu'n ddarlithydd Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac yn bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun.
• Mae'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
• Mae'n brifardd dwbl ac yn brif lenor ac mae galw mawr amdani i ddarlithio a chynnal gweithdai barddoni.
• Bu'n Fardd Plant Cymru yn 2005.