CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

O'r Pridd i'r Plât - Ryseitiau Figan i'w Mwynhau Bob Dydd

Ceri Lloyd

O'r Pridd i'r Plât - Ryseitiau Figan i'w Mwynhau Bob Dydd

Pris arferol £14.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ceri Lloyd

ISBN: 9781784617769
Dyddiad Cyhoeddi: 14 Hydref 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Caled, 218x245 mm, 168 tudalen
Iaith: Cymraeg

Y llyfr coginio fegan cyntaf yn Gymraeg, llawn lluniau lliw, gan yr actores Ceri Lloyd sydd eisoes yn adnabyddus am ei rôl ar y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd ar S4C. Mae hefyd yn ysgrifennu blog llwyddiannus o'r enw Eat Sleep Organic sy'n llawn ryseitiau a chyngor am ffordd o fwyd fegan, ac mae'n fywiog ar Twitter ac Instagram.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Ceri'n fegan sydd wedi astudio deiet ac sy'n cyflwyno slot fwyd reolaidd ar raglen Heno ar S4C. Mae'n siaradwraig boblogaidd ar y cyfryngau'n gyffredinol ac yn rhedeg clybiau swper fydd yn ehangu cynulleidfa ac yn farchnad werthu dda. Mae Ceri'n adnabyddus fel actores. Mae hefyd yn awdur blog llwyddiannus. Mae Heno, un o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd ar S4C yn siŵr o'i chefnogi wrth hyrwyddo'r gyfrol.
Gwybodaeth Bellach:
Mae yna ddiddordeb cynyddol mewn coginio fel ffordd o ymlacio sy'n cael ei adlewyrchu mewn rhaglenni teledu niferus. Fe fydd naws Cymreig i'r llyfr. Dyma'r llyfr cyntaf o'r math yn Gymraeg, ond fe fydd yn manteisio ar lwyddiant llyfrau poblogaidd tu hwnt fel Deliciously Ella sy'n gwerthu yn eu miloedd, ac yn llwyddo i apelio y tu hwnt i feganiaid.
Fe fydd y gyfrol yn dilyn y blog o ran y defnydd o luniau bwyd a ffordd o fyw hyfryd ac fe fydd yr arddull ddylunio'n fodern ac yn lân, gan y dylunydd Dyfan Williams sydd eisoes wedi gwneud gwaith da i'r wasg. Fe fydd yn llawn ffotograffau gwreiddiol trawiadol gan y ffotograffydd Rhiannon Holland a Ceri Lloyd ei hun.