CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Pobol Dafydd Iwan

Dafydd Iwan

Pobol Dafydd Iwan

Pris arferol £9.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Dafydd Iwan

ISBN: 9781784611606
Dyddiad Cyhoeddi: 25 Tachwedd 2015
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 214x142 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg

Un o bobol enwocaf y Gymru gyfoes yn ysgrifennu am rai o fawrion ein cenedl. O Lewis Valentine i Kate Roberts, o Graf i Merêd, dyma bortreadau byrion o dros 50 o Gymry (ac ambell Sais!), sydd wedi'n gadael ni.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Dafydd Iwan yn un o enwogion ein cenedl. Mae'n wleidydd, yn awdur, yn gyflwynydd ac yn ganwr. Mae'n ysgrifennu am rai o fawrion ein cenedl ac yn cynnig rhywbeth newydd i ddarllenwyr. Cyhoeddodd Dafydd Iwan lyfrau niferus a chyfansoddodd ganeuon eiconig.
Gwybodaeth Bellach:
Mae rhai o'r 'bobol' yn Gymry amlwg yr oedd Dafydd Iwan wedi eu cyfarfod unwaith neu ddwywaith yn unig, eraill yn gyfeillion agos nad oedd yn adnabyddus y tu hwnt i'w milltir sgwâr, ond sy'n haeddu sylw.
Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn nabod TH Parry-Williams, ond beth am ei wraig, Y Foneddiges Amy? A beth yw'r cysylltiad rhwng Dafydd a'r Prins a'r agent provocateur?
Ceir cip y tu ôl i sawl stori fawr. Trwy gynnig golwg wahanol ar bobol rydym yn meddwl ein bod yn nabod, rydym hefyd yn dod i nabod yr awdur yn well. Y cymhelliad cyntaf oedd cyfleu i'r genhedlaeth iau bod enwau mewn hanes (megis Cynan, Waldo a Gwenallt), yn bobol cig a gwaed.