CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Tir a Môr

Bryn Williams

Tir a Môr

Pris arferol £14.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Bryn Williams | Catrin Beard

ISBN: 9781848518513
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Hydref 2015
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Caled, 248x170 mm, 136 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol gyntaf o ryseitiau yn y Gymraeg gan y cogydd Bryn Williams. Mae'r gyfrol ddarluniadol hardd yn cynnwys ryseitiau amrywiol, o gyrsiau cyntaf, pysgod, bwyd môr a chigoedd i bwdinau, diodydd, jam a bwydydd i'w coginio yn yr awyr agored. Yn ogystal, cyflwynir hanes magwraeth wledig Bryn yn Nyffryn Clwyd, a'i ddatblygiad yn un o gogyddion mwyaf llwyddiannus ac adnabyddus Cymru.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Bryn Williams yn gogydd adnabydddus sy'n hanu o Ddinbych yn wreiddiol.
- Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Twm o’r Nant, Dinbych, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy, a Choleg Llandrillo cyn iddo symud i Lundain a Pharis.
- Dysgodd ei grefft o dan law cogyddion sêr Michelin fel Marco Pierre
White a Michel Roux Jr.
- Ef yw perchennog Bwyty Odette's ym Mryn y Brinllu, Llundain.
- Daeth i amlygrwydd gyntaf ar y rhaglen deledu Great British
Menu
 yn 2006.
- Mae ryseitiau Bryn i'w gweld yn ei lyfr Bryn's Kitchen (2011) a
For the Love of Veg (2013) ond dyma'i gyfrol gyntaf yn Gymraeg.
- Ef yw cyflwynydd y gyfres Cegin Bryn ar S4C.
- Mae Bryn wedi agor tŷ bwyta ym Mae Colwyn.
- Derbyniwyd Bryn i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 2013.
Gwybodaeth Bellach:
Tir a môr Cymru yw sail y cynnwys a'r lluniau. Adroddir hanes bywyd Bryn ochr yn ochr â lluniau ohono yn ei gynefin yn y gogledd.
Mab fferm yw Bryn, a datblygodd ei ddiddordeb ym mhob peth sydd gan y tir a'r môr i'w gynnig pan oedd yn ifanc iawn. Roedd wrth ei fodd ar y fferm ac roedd y syniad o fyw a gweithio mewn dinas fawr yn estron iawn iddo.
Sut, felly, y daeth yn berchennog bwyty llwyddiannus Odette's yn Llundain, ac yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru a thu hwnt?
Cawn ddilyn taith y cogydd adnabyddus o Ddyffryn Clwyd a darllen am ei gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.