CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Un Stribedyn Bach

Rhys Iorwerth

Un Stribedyn Bach

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Rhys Iorwerth

ISBN: 9781845274788
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Mehefin 2014
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Rhys Aneurin
Fformat: Clawr Meddal, 183x126 mm, 80 tudalen
Iaith: Cymraeg

Casgliad cyntaf o gerddi gan Brifardd ifanc a chyffrous. Enillydd Cadair Genedlaethol Wrecsam yn 2011.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Rhys Iorwerth a Rhys Aneurin yn byw dafliad carreg oddi wrth ei gilydd yn y brifddinas: y naill yn ardal Glan-yr-afon a’r llall yn Grangetown. Tafliad carreg fymryn pellach, ond nid llawer pellach chwaith, sydd rhwng gwreiddiau’r ddau yng Nghaernarfon a Llanfairpwll.

Rhys Iorwerth oedd enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011. Ar hyn o bryd, mae’n trefnu nosweithiau Bragdy’r Beirdd ac yn cynnal dosbarthiadau cynganeddu yng ngorllewin Caerdydd. Mae’n aelod ffyddlon o dîm talwrn Aberhafren a thîm ymryson y Deheubarth.

Mae Rhys Aneurin yn ddarlunydd sydd wedi cydweithio â Rhys Iorwerth ar sawl prosiect ers iddynt gyfarfod yng ngaeaf 2011. Dyma’r ddiweddaraf o blith nifer o gloriau i Rhys eu dylunio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r berthynas rhwng geiriau a delweddau yn rhywbeth sy’n diddori’r ddau.