CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Wal

Mari Emlyn

Wal

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mari Emlyn

ISBN: 9781800991385
Dyddiad Cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 102 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Mai 2020
Wrth i Siân geisio ysgrifennu, daw toriad i'r trydan. Yn y tywyllwch, mae'n hel meddyliau am Simon Kaltenbach, ei chymydog, sydd wedi adeiladu wal fawr hyll rhwng y ddau dŷ. Mae hyn yn ei harwain i gofio ei magwrfa a'r waliau fu'n gymaint rhwystr yn ei phlentyndod. Beth ddigwyddodd i'w brawd, Gareth? Pam nad oedd Siân yn hoffi Anti Rita?

Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd a magwyd Mari yng Nghaerdydd. Yn dilyn cwblhau ei haddysg yn ysgolion Bryntaf a Llanhari aeth i Lundain a graddio yn y Celfyddydau Perfformio yng ngholeg Rose Bruford College of Speech and Drama. Ers hynny mae Mari wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd llyfrau ac awdur llyfrau. Mae Mari’n byw yn Y Felinheli.

Gwybodaeth Bellach:
Nofel amlhaenog gyda themâu cyfoes yn rhedeg drwyddi. Mae’r nofel yn dilyn fformat llyfr sydd yn helpu plant dysgu darllen. Wrth i’r nofel fynd rhagddi, mae ffont y geiriau yn mynd yn llai, sef arwydd o ddatblygiad llythrennedd plentyn. Yn Wal mae’n arwydd o’r prif gymeriad, Siân, yn dysgu mwy amdani hi ei hun a theflir goleuni ar y tywyllwch a chodir pontydd yn lle waliau. Mae Wal hefyd yn lyfr clawr caled a gwelir geiriau allweddol yn britho gwaelod y ddalen.
Dywedodd Mereid Hopwood yn ei beirniadaeth ar y nofel hon yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, fod yma waith 'cynnil, meistrolgar a chwbl wreiddiol'.