CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Dychymyg Ôl-fodern - Agweddau ar Ffuglen Fer Mihangel Morgan

Rhiannon Marks

Y Dychymyg Ôl-fodern - Agweddau ar Ffuglen Fer Mihangel Morgan

Pris arferol £19.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Rhiannon Marks

ISBN: 9781786835901 
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Awst 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 217x139 mm, 276 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma gyfrol sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor cyfoes Mihangel Morgan. Mae'n arbrofi â beirniadaeth greadigol er mwyn cyfleu cysyniadau ynghylch llenyddiaeth mewn modd sy'n ddealladwy ac yn ddarllenadwy ar gyfer cynulleidfa greadigol ac academaidd fel ei gilydd.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:
Diolchiadau
Rhagair
Rhagymadrodd
1. Dechrau’r Tymor ym Mhrifysgol Caerefydd
2. O’r Merddwr Dychrynus
3. Ar drywydd Hen Lwybr a Storїau Eraill
4. Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol
5. Gwthio Ffiniau yn Te Gyda’r Frenhines
6. Pwyllgora a Chystadlu
7. Jean Baudrillard a’r cyflwr ‘hyperreal’
8. Trafod Theori Cadi
9. Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog
10. Storïau Ffeithiol
11. Dadadeiladu ‘Recsarseis Bŵc’ yn Cathod a Chŵn
12. Adnabod Awdur?
13. Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a’r Ystlum a Dirgelion Eraill
14. Crefft y Stori Fer Heddiw
15. Di-ffinio 60
16. Hel Syniadau
Llyfryddiaeth Ddethol


Bywgraffiad Awdur:
Daw Rhiannon Marks yn wreiddiol o Gil-y-Cwm, Sir Gâr, ac fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen. Mae’n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn arbenigo mewn llenyddiaeth gyfoes a theori lenyddol. Enillodd ei chyfrol academaidd gyntaf, Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr: Golwg ar Waith Menna Elfyn Wobr Goffa Syr Ellis Griffith yn 2015.


Gwybodaeth Bellach:
Beirniadaeth Greadigol a geir yma felly mae'n cynnig dadansoddiad o waith Mihangel Morgan ac ôl-foderniaeth mewn modd creadigol a darllenadwy - yn wir, mae'n ddarn o ffuglen ynddo’i hun, ac felly'n addas a gyfer cynulleidfa nad ydynt o reidrwydd yn rhan o'r byd academaidd.

Dyma'r astudiaeth estynedig gyntaf o waith Mihangel Morgan - llenor y mae ei waith yn ddigon astrus i'w ddadansoddi ar brydiau. Dyma hefyd yr astudiaeth gyntaf ers degawdau sy'n rhoi sylw penodol i'r stori fer Gymraeg.

Bydd yn ganllaw da i ddisgyblion a myfyrwyr sy'n astudio. Astudir gwaith Mihangel Morgan gan fyfyrwyr sy'n astudio Cymraeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, ac ar lu o gyrsiau Prifysgol. Gobeithio y bydd y llyfr yn gymorth iddynt ddeall rhagor am y llenor nodedig hwn.