CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Preselau - Gwlad Hud a Lledrith

Dyfed Elis-Gruffydd

Y Preselau - Gwlad Hud a Lledrith

Pris arferol £14.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Dyfed Elis-Gruffydd

ISBN: 9781785620829
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Mai 2017
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 239x165 mm, 256 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol yn llawn hanesion swynol a ffeithiau difyr am fynyddoedd y Preselau gan y darlithydd, daearegwr a theithiwr brwd Dyfed Elis-Gruffydd. Portread byw o 'wlad hud a lledrith' copaon uchel mwyaf gorllewinol Cymru.

Bywgraffiad Awdur:
Gwyddonydd Daearegol yw Dyfed Elis-Gruffydd. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Bu'n ddarlithydd ym mhrifddinas Lloegr ac yn ei dro hefyd bu'n Bennaeth Adran Gyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn Olygydd a Chyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer, yn Bennaeth Amgueddfa Wlân Cymru, ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Ei ddiléit yw crwydro Cymru, arwain teithiau cerdded, annerch cymdeithasau Cymraeg a rhodio tirweddau rhewlifol a folcanig gogledd-orllewin Ewrop.
Gwybodaeth Bellach:
Ystrydeb dreuliedig yw cyfeirio at y Preselau fel 'gwlad hud a lledrith', ond dan ddylanwad hudoliaeth honedig y bryniau mae nifer o fythau a chwedlau'r fro wedi magu statws ffeithiau diymwad.

Oes tystiolaeth gadarn i brofi mai trigolion y cynfyd fu'n gyfrifol am lusgo'r cerrig gleision o'r Preselau i Wastadedd Caersallog? Ai llechi chwarel Rosebush a osodwyd ar do'r Senedd yn Llundain? Ai protestiadau preswylwyr y Preselau a achubodd y bryniau rhag rhaib y Fyddin Brydeinig? A yw 'Preseli cu' Waldo a W.R. Evans yn gadarnle'r iaith Gymraeg?

Mae'r gyfrol hon yn nithio'r gwir a'r gau wrth gynnig portread o rin a rhamant copaon uchel mwyaf gorllewinol Cymru.