Nicola Davies
Yr Addewid
Awdur: Nicola Davies
ISBN: 9781914079344
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Ionawr 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Laura Carlin
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mererid Hopwood.
Fformat: Clawr Meddal, 250x260 mm, 48 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae lleidr ifanc yn cipio bag hen wraig – ac yn cael ei gorfodi i wneud addewid ... dyma ddechrau taith a fydd yn newid popeth am byth. Wedi’i ysbrydoli gan y gred bod perthynas â natur yn hanfodol i bob bod dynol, a bod angen i ni nawr, yn fwy nag erioed adnewyddu’r berthynas honno, stori darganfyddiad hudolus yw Yr A ddewid, a fydd yn cyffwrdd â chalon a dychymyg pob darllenydd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae’r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise (Gwobr Llyfrau Green Earth 2015, Rhestr Fer Greenaway 2015), Tiny (Gwobr AAAS Subaru 2015), A First Book of Nature, a Whale Boy (Rhestr Fer Gwobr Blue Peter 2014). Ymhlith ei llyfrau ar gyfer Graffeg mae Perfect (Rhestr Hir Greenaway 2017), The Pond, Animal Surprises (Rhestr Hir Klaus Flugge 2017), a chyfresi Shadows & Light a Country Tales. Graddiodd mewn swoleg o Goleg yr Iesu, Caergrawnt, gan astudio gwyddau, morfilod ac ystlumod cyn dod yn gyflwynydd ar The Really Wild Show a gweithio yn Uned Hanes Natur y BBC. Bu’n ysgrifennu llyfrau I blant am dros ugain mlynedd, a
sylfaen holl weithiau Nicola yw ei chred fod perthynas â natur yn hanfodol I bawb, a bod angen inni adnewyddu’r berthynas honno yn awr yn fwy nag erioed.
Graddiodd Laura Carlin o’r Coleg Celf Brenhinol ac mae hi wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Darluniadau Llyfr y V&A am ei gwaith yn The Iron Man gan Ted Hughes. Gwelwyd ei gwaith yn Vogue, y Guardian
a’r New York Times.
Mae Mererid Hopwood wedi ysgrifennu, golygu a throsi nifer o weithiau i blant, gan gynnwys cyfres nofelau Miss Prydderch, Fy Llyfr Englynion a Geiriau Diflanedig, sef trosiad o waith Rob Macfarlane gyda darluniadau gan Jackie Morris.