CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Atlas of Stateless Nations in Europe - Minority People in Search of Recognition

Y Lolfa

Atlas of Stateless Nations in Europe - Minority People in Search of Recognition

Pris arferol £14.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Mikael Bodlore-Penlaez
ISBN: 9781847713797
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Tachwedd 2013
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 215x172 mm, 160 tudalen
Iaith: Saesneg
Mae'r atlas unigryw yma yn ein tywys ar daith o amgylch cenhedloedd diwladwriaeth Ewrop heddiw. Mae'n mapio eu cymeriad ffisegol a ieithyddol, ac yn crynhoi eu hanes, eu gwleidyddiaeth a'u sefyllfa bresennol.
Bywgraffiad Awdur:
In 1999, Mikael Bodlore-Penlaez founded the internet site www.eurominority.eu devoted to stateless nations and minority people of Europe. He regularly collaborates to produce bodies of work and geographical charts on this subject. The creation of this atlas relied on the support of a team of specialists on the question of ‘minorities’ across Europe.
Gwybodaeth Bellach:
Their names: Alsacians, Basques, Bretons, Catalans, Corsican, Scottish, Frisians, Welsh, Sorbians… These people have always defended their strong identity. Marked by particular cultural traits, they know how to express their feeling of belonging to a community bound together by history. But who really knows their aspirations, of their quest for recognition of freedom, the desire to control their destiny. To speak their language, or to be officially recognised?
Atlas o Wledydd Sy’n Dyheu am Adnabyddiaeth ac Annibyniaeth

Mae Y Lolfa wedi cyhoeddi atlas newydd o wledydd di-wladwriaeth Ewrop. Yn ddyddiol cawn ein hatgoffa fod yno bobloedd ar draws y byd yn ymladd am adnabyddiaeth ac annibyniaeth. Mae oddeutu deg ar hugain o genhedloedd di-wladwriaeth yn Ewrop heddiw sy’n dyheu am ychwaneg o ryddid - grwpiau o bobloedd leiafrifol sydd wedi colli neu erioed wedi cael eu sofraniaeth. Mae Atlas of Stateless Nations in Europe yn atlas unigryw sydd heb ei gyfyngu unrhyw ffiniau gweledol, ond yn hytrach, yn mapio priodweddau ieithyddol a daearyddol cenhedloedd di-wladwriaeth Ewrop, yn ogystal ag olrhain hynt a helynt eu hanes, eu gwleidyddiaeth bresennol a’r newidiadau sy’n debygol yn eu hynt.

Pwysleisia’r llyfr nad yw Ewrop yn gyfandir statig, a dylid cofleidio’i amrywioldeb: mae yno bobl sy’n brwydro am newid yn nifer o’r gwledydd. Mae’r Alban a Gwlad y Basg yn paratoi ar gyfer refferenda ar annibyniaeth, gan ddilyn ôl traed Montenegro a Kosovo sydd wedi ennill eu hannibyniaeth yn lled ddiweddar.

Awdur y llyfr a dylunydd y gyfrol, a gafodd ei gyhoeddi yn gyntaf yn Ffrangeg, yw’r Llydawr Mikael Bodlore-Penlaez, gŵr a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu’r Gyfundrefn dros Leiafrifoedd Ewrop. Mikael sefydlodd y wefan www.eurominority.eu, sy’n canolbwyntio ar genhedloedd di-wladwriaeth a phobloedd leiafrifol Ewrop, a chydweithiai’n aml i gynhyrchu cyrff o weithiau a siartiau daearyddol ar y pwnc.

Mae’r gyfrol wedi derbyn croeso mawr yn barod. Dywedodd Joan I Marí, Catalan a chyn aelod o Senedd Ewrop, “Mae Mikael wedi cynhyrchu gwaith trwyadl a phwysig dros ben gan gasglu panorama cyflawn o hunaniaeth genedlaethol gwledydd llai adnabyddus Ewrop.”

Ychwanegodd y sylwebydd diwylliannol Siôn Jobbins, “Darllen hawdd a diddorol i’r rheiny sydd eisiau dysgu mwy am yr Ewrop cuddiedig, a’r gwledydd nesaf sydd i ennill annibyniaeth.”