CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Cat, Daf a'r Map

Siân Lewis

Cat, Daf a'r Map

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Siân Lewis
ISBN: 9781845274412
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Gorffennaf 2015
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Peter Stevenson
Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
Fformat: Clawr Meddal, 285x245 mm
Iaith: Cymraeg
Mae Catrin a Dafydd ar eu gwyliau ar fferm Maes Plwm, cartref eu modryb a'u hewyrth. Wedi i Wncwl Harri gyfeirio gyrrwr coll i fferm Wern-las, mae Cat a Daf yn cynllunio taith i Wern-las gyda chymorth map Arolwg Ordnans Anti Gwen. Ar bob tudalen, ceir darn o fap i ddangos y ffordd a rhestr o bethau diddorol i'w gweld ar y daith. Stori ddifyr sy'n dysgu darllenwyr ifanc sut i ddarllen map.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’r stori hon yn adrodd hanes Cat a Daf yn cynllunio taith i Wernlas. Ar bob tudalen mae darn o fap sy’n dangos pa ffordd i fynd a hefyd y pethau diddorol sydd i’w gweld ar hyd y ffordd. Yn ogystal, mae lluniau’n dangos y wlad o gwmpas ac yn gwneud i’r map ddod yn fyw. Oherwydd hyn, mae’n eithaf hawdd dychmygu eich bod yn cyd-gerdded gyda Cat, Daf ac Wncwl Harri, ac yn rhoi help llaw iddyn nhw ganfod y ffordd. Mwynhewch y daith!