CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Bro a Bywyd: Kyffin Williams - His Life, his Land

Cyhoeddiadau Barddas

Bro a Bywyd: Kyffin Williams - His Life, his Land

Pris arferol £15.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

ISBN: 9781911584087
Dyddiad Cyhoeddi: 16 Chwefror 2018
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas, Abertawe
Golygwyd gan David Meredith
Fformat: Clawr Meddal, 185x240 mm, 168 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Cyhoeddir yr argraffiad newydd hwn o'r gyfrol ddarluniadol hynod boblogaidd hon yn y gyfres 'Bro a Bywyd' i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Kyffin Williams - portread didwyll gweledol ac ysgrifenedig o'r arlunydd ysbrydoledig. 'Teyrnged yw'r llyfr hwn i gyfaill, i ddyn annwyl, i Gymro glew, i ŵr ffraeth llawn hiwmor ac i grefftwr na welir ei debyg.' (David Meredith).

Tabl Cynnwys:
Rhagair
Y Cyfnod Cynnar
Ysgol Amwythig
I'r Fyddin
I'r Coleg, i'r Slade
Ysbrydoliaeth
I'r Cyfandir - paentio dramor
Athro yn Ysgol Highgate, Llundain
Patagonia
Hafan Kyffin, Pwllfanogl
Kyffin a'r Oriel
Ei Sir Fon, Dirion Dir
Kyffin y cartwnydd
Cynlluniau Kyffin a'i ddylanwad
Kyffin yr Ysbrydolwr a'r Portreadwr
Kyffin a'r Gymraeg
Anrhydeddau
Ar dan dros y Celfyddydau
Amgueddfeydd ac Orielau
Dathlu'r Wyth Deg
Concro Fenis
Y Cambrian

Bywgraffiad Awdur:
David Meredith yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams, ac esgorodd ei gyfeillgarwch a'r arlunydd enwog ar gyfrolau nodedig amdano, yn cynnwys y bywgraffiad dwyieithog Obsesed ar y cyd a John Smith (Gomer, 2012) a Golau ar y Gamlas/ Drawn to the Light (Kyffin Williams yn Fenis) (Cyngor Sir Ynys Mon, 2013).

Gwybodaeth Bellach:
Rhif ISBN yr argraffiad gwreiddiol: 9781906396046
'Gwyliwr ar y tŵr oedd Kyffin Williams, neu John Kyffin Williams, neu Syr Kyffin, neu fel yr hoffai i bobl gyfeirio ato, Kyffin. Ie, gwyliwr ar y tŵr dros fuddiannau artistig gorau Cymru a byd Celf. Ef, yn ddiamau, oedd prif arlunydd Cymru, dyn a oedd ar dân dros ei alwedigaeth hunanddewisedig o fod yn arlunydd proffesiynol. Ni welodd Cymru artist mwy cynhyrchiol na mwy masnachol lwyddiannus na John Kyffin Williams. Etifeddodd gariad at bobl gan ei dad a’i gyndeidiau a chredai mai ei bortreadau oedd peth o’i waith gorau.
Rhoddodd Gymru a’i phobl ar bedastl, canodd fawl i’r greadigaeth drwy ei waith ac ysbrydolodd ni oll. Fel Cymro gwerth ei halen, roedd yn falch o’i dras a’i gysylltiadau a’i wreiddiau dwfn yn Sir Fôn, yn ardal Llansilin ym Mhowys ac yng Ngheredigion. Er mai Cymru, yn rhostiroedd, tai annedd a ffermydd, mynyddoedd, llynnoedd, eglwysi, capeli, arfordiroedd a llechweddau ysgithrog oedd prif feysydd ei weithgarwch fel artist paentiadau tirwedd, bu hefyd yn gweithio yn Ne America a nifer o wledydd Ewrop.' (David Meredith, golygydd)