CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Byd Aneurin - Hunangofiant Mewn Llun a Gair

Aneurin Jones

Byd Aneurin - Hunangofiant Mewn Llun a Gair

Pris arferol £19.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Aneurin Jones

ISBN: 9781847710130
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Golygwyd gan Emyr Llywelyn
Fformat: Clawr Meddal, 200x210 mm, 180 tudalen
Iaith: Cymraeg

Hunangofiant yr artist Aneurin Jones, yn llawn celf a brasluniau na gyhoeddwyd o'r blaen. Mae'r gyfrol yn rhoi darlun o blentyndod gwledig yng Nghwm Wysg, gyrfa'r artist, ei brofiad fel athro ac artist uchel ei barch. Llawn storïau difyr.

Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Aneurin ei fagu yng Nghwm Wysg cyn gadael am Goleg Celf Abertawe ac yna symudodd i ardal y Preselau lle cafodd ailddarganfod y gymuned glos a’r cymeriadau gwreiddiol a adnabu yn ei ieuenctid.
Gwybodaeth Bellach:
Dyma gyfrol arbennig sy'n cyfuno hunangofiant artist gyda nifer fawr o'i luniau mwyaf eiconig. Trwy gyd-fwynhau'r geiriau a'r lluniau down i ddeall sut y daeth Aneurin Jones yn brif bortreadydd y gymdeithas wledig, Gymraeg. Darllenwn am ei fagwraeth yng Nghwm Wysg, ei flynyddoedd hwyliog yng Ngholeg Celf Abertawe, ac yna'r cyfnodau ffrwythlon yn Sir Benfro a Cheredigion lle cafodd ailddarganfod y gymuned glos a'r cymeriadau gwreiddiol a adnabu yn ei ieuenctid. Yn llawn straeon ffraeth a phortreadau cofiadwy o bobl ac o anifeiliaid hefyd, dyma drysor o gyfrol sy'n cofnodi rhin a rhamant ffordd o fyw sydd ar fin diflannu, tra ar yr un pryd yn dathlu gwaith un o'r artistiaid gorau sydd gennym fel cenedl.

Yn ogystal â hanes ei fywyd mae’r gyfrol yn cynnwys bron i ddau gant o luniau a sgestus yr artist.

Mae’r gyfrol yn llawn straeon ffraeth a phortreadau cofiadwy o bobl ac anifeiliaid, gan ddarlunio ffordd o fyw gwledig sy’n araf ddiflannu. Mae Aneurin yn datgelu beth sy’n ei ysbrydoli fel artist, sut mae’n mynd ati i dynnu llun yn ogystal ag esbonio cefndir rhai o’r lluniau.

Mae gwaith Aneurin wedi cael ei arddangos mewn orielau trwy Gymru, yn Llundain a thu hwnt, ac wedi ennill clod gan wybodusion yn ogystal â phoblogrwydd rhyfeddol ymhlith gwerin Cymru. Dywedodd Emyr Llywelyn, a gydweithiodd gydag Aneurin ar y llyfr, “Gwyddom yn ein calonnau fod lluniau Aneurin yn llefaru’r gwirionedd am berthynas dyn â’i gyd-ddyn, am berthynas dyn ag anifail, am ei berthynas â’r pridd ac yn bwysicach na dim am ei berthynas â’r hyn sy’n real ac yn dragwyddol.”