CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Cyfres Cynefin: 1. Cynefin yr Ardd

Gwasg Carreg Gwalch

Cyfres Cynefin: 1. Cynefin yr Ardd

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Iolo Williams, Bethan Wyn Jones

ISBN: 9781845273866 
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Ebrill 2012
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 300x165 mm
Iaith: Cymraeg

Nid llyfr garddio mo hwn, ond llyfr i blant ac oedolion sy'n trafod cynefin yr ardd - yr anifeiliaid, yr adar, y pryfetach, yr ymlusgiaid, y coed, y llwyni, y blodau a'r perlysiau sydd i gyd yn ffurfio'r cynefin cyfoethog hwn sydd ar riniog ein drws. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2013.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Yn naturiaethwyr a darlledwyr amlwg iawn, mae Iolo Williams a Bethan Wyn Jones yn esbonio pwysigrwydd yr ardd a pham y dylem ei gwarchod a’i thrysori, nid yn unig er lles byd natur a ni ein hunain ond er lles pobloedd y byd heddiw ac yfory. Cewch weld enghreifftiau o sut mae ysgolion yn annog plant i werthfawrogi natur ac i ofalu am ein hamgylchfyd.

Llyfr lliw llawn sy’n llawn ffotograffau a darluniau. Yn cynnwys llawer o gynhorion ymaferol ar sut i warchod natur.