CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Geiriau Difyr a Doeth - Diarhebion o Bedwar Ban Byd

D. Geraint Lewis

Geiriau Difyr a Doeth - Diarhebion o Bedwar Ban Byd

Pris arferol £5.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: D. Geraint Lewis

ISBN: 9781845276898 
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Ebrill 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 88 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yr hyn a geir yn y casgliad hwn yw diarhebion o wledydd a diwylliannau o gwmpas y byd, hen ddiarhebion Cymraeg mewn gwisg newydd a gwirebau nad ydynt eto wedi'u llathru â pharchusrwydd henaint ond efallai a ddaw felly yn y dyfodol. Ac os felly, efallai y cofiwch mai fan hyn y gwelsoch chi nhw gyntaf!!

Gwybodaeth Bellach:
Plant y gwirionedd yw hen ddiarhebion. Dihareb, adnod y werin, – ei swyn yw synnwyr cyffredin. Mae traddodiad hir a pharchus i’r arfer o gasglu diarhebion yn Gymraeg.
Aeth D. Geraint Lewis ymlaen wedyn i gasglu diarhebion o wledydd eraill y byd oedd wedi cael eu cyfieithu i’r Saesneg, yn enwedig y rhai oedd yn ymgorffori’r ‘synnwyr cyffredin’ hwnnw sydd mewn gwirionedd yn anghyffredin o gofiadwy – dim ond ffŵl sy’n mesur dyfnder pwll gyda’i ddwy droed!