Awdur: Phil Jones
ISBN: 9781848512139
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Ebrill 2010
Cyhoeddwr: Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Caled, 222x250 mm, 112 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
Am drigain milltir o Ynys-las ger aber afon Dyfi yn y gogledd, hyd at draeth Gwbert ger aber afon Teifi yn y de, caiff y cerddwr ei gyfarch gan brydferthwch ar ryw ffurf neu'i gilydd. Daliodd y detholiad hwn o ffotograffau beth o'r ceinder hwnnw gan ei gynnig fel hyfrydwch pur i'r rhai a brofodd y llwybr eisoes, ac fel addewid i'r rhai sydd eto i wneud hynny.
Tabl Cynnwys:
Ynys-las > Borth
Borth > Aberystwyth
Aberystwyth > Llanrhystud
Llanrhystud > Aberaeron
Aberaeron > Cwmtudu
Cwmtudu > Llangrannog
Llangrannog > Aber-porth
Aber-porth > Mwnt
Mwnt > Gwbert
Diolch a Chydnabyddiaeth
Offer a Gwybodaeth Dechnegol
Bywgraffiad Awdur:
Ganed Phil Jones yng Nghaerdydd a bu’n byw ger Aberystwyth er 1995. Arweiniodd ei ddiddordeb ef mewn ffotograffiaeth, a diddordeb ei wraig Sarah mewn darlunio, at nifer o gynlluniau sy ynghlwm wrth fôr a thirwedd canolbarth Cymru.
Cyhoeddwyd lluniau Phil Jones mewn nifer o gylchgronau ffotograffig ac yn Take a View – Landscape Photographer of the Year (Volume 2). Y mae hefyd wedi arddangos ei waith yng Ngheredigion ac yn arddangosfa Welsh Artist of the Year yng Nghaerdydd 2009.
Gwybodaeth Bellach:
Am drigain milltir o Ynys-las ger aber afon Dyfi yn y gogledd, hyd at draeth Gwbert ger aber afon Teifi yn y de, caiff y cerddwr
ei gyfarch gan brydferthwch ar ryw ffurf neu’i gilydd. Daliodd y detholiad hwn o ffotograffau beth o’r ceinder hwnnw gan ei
gynnig fel hyfrydwch pur i’r rhai a brofodd y llwybr eisoes, ac fel addewid i’r rhai sydd eto i wneud hynny.