CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi

Dewi Prysor

100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi

Pris arferol £19.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Dewi Prysor

ISBN: 9781800990517
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Rhagfyr 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Caled, 218x248 mm, 264 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma hanes Dewi Prysor yn cerdded 100 copa uchaf Cymru. Yn ogystal â chyfarwyddiadau a disgrifiadau taith, cyfeirir at hanes lleol, enwau mynyddoedd, rhennir atgofion, dyfynnir caneuon a cherddi a cheir lluniau anhygoel sy’n cynnwys ambell i olygfa annisgwyl a welwyd ar y topiau.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mab y mynydd ydi Dewi Prysor, ac yn y mynyddoedd mae ei le. Yn byw ac yn bod yn crwydro'r uchelfannau, mae'n gerddwr brwd yn ei ardal enedigol ym Meirionnydd ac yn wir, ymhob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am y mynyddoedd, y llwybrau a'r creigiau; yn ogystal â gwybodaeth am darddiad enwau, a hanesion am y bobl a fu'n byw a gweithio ar y mynyddoedd.