CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Albert Anferth

Graffeg

Albert Anferth

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Ian Brown

ISBN: 9781802581713
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Mai 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Eoin Clarke
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 252x252 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Albert y crwban anwes yn cael antur. Rhaid iddo herio deinosoriaid enfawr a llosgfynydd tanllyd. Yna, yn ôl yn yr ardd, rhaid iddo helpu ei ffrindiau bach sydd â'u trafferthion eu hunain.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Cyn-newyddiadurwr sydd hefyd wedi troi ei law at gyfarwyddo a sgwennu ar gyfer y teledu yw Ian. Wedi cyfnod yn gweithio ar bapurau lleol a chenedlaethol, mae wedi bod ynghlwm â’r byd teledu am dros ddeg mlynedd ar hugain, gan ymwneud â newyddion, rhaglenni dogfen, hysbysebion, rhaglenni comedi a sioeau adloniant. Mae Ian wedi sgwennu neu gyfarwyddo ar gyfer nifer o enwau cyfarwydd, gan ennill sawl gwobr am ei waith. Bu sgwennu ar gyfer plant yn freuddwyd ganddo ers tro. Mae’n rhannu ei gartref â’i wraig Millie, dwy gath, ambell greadur arall – a chrwban o’r enw Albert.

Gwybodaeth Bellach:
Daw’r darluniau hyfryd â’r stori fawr hon yn fyw – mae’n stori am gyfeillgarwch, breuddwydion ac am y pwysigrwydd o helpu eraill, beth bynnag fo eu maint. Ceir yma hefyd ffeithiau di-ri a difyr am yr Albert go iawn – deinosor bach a llysieuwr o fri – ac ysbrydoliaeth y stori hyfryd hon, ynghyd â ffeithiau am ei gefndryd deinosoraidd.