CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Dedfryd Oes

Emyr Evans

Dedfryd Oes

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Emyr Evans

ISBN: 9781845278533
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Mai 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 230 tudalen
Iaith: Cymraeg

Ebrill 1988. Mae Siôn yn fyfyriwr yn Aberystwyth ac yn fodlon gweithredu dros ei wlad. Mae popeth wedi'i drefnu a'r tŷ haf yn wag, ond mae penderfyniad byrbwyll cyfaill yn chwalu bywyd Siôn yn yfflon. Nofel am fentro, am egwyddorion, am gyfeillgarwch ac am droi cefn.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Gwrtnewydd yn ne Ceredigion yw Emyr Evans. Ar ôl ennill gradd mewn Ffiseg cymhwysodd yn athro, ac yn ogystal â dysgu mae wedi gweithio yn y maes trwsio awyrennau, yn y byd niwclear, i’r heddlu ac i gwmnïau cynhyrchu bwyd a phersawr. Ar un cyfnod roedd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ar hyd a lled y DU, Ewrop, Tsieina, Awstralia a De’r Affrig i gwmnïau o America.

Mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerwys, Sir y Fflint gyda’i wraig, ei dwy ferch a’r ci. Ymysg ei ddiddordebau mae barddoni, nofio tanddwr a sgïo. Hon yw ei nofel gyntaf.

Gwybodaeth Bellach:

"Chi'n gwybod y drefen, bois. Dim trais. Dim mentro dim. Dy'n ni'r Meibion ddim yn mynd i niweidio unrhyw un – byth bythoedd."

Nofel yn seiliedig ar yr ymgyrch losgi tai haf oedd yn ei fri yng Nghymru yn y 1980au, a'r hyn a allai fod wedi digwydd petai un o'r Meibion wedi cael ei ddal a'i garcharu ar y pryd. Mae Sion yn gwrthod enwi ei gyd-losgwyr, ac mae'r penderfyniad hwnnw yn llywio ei fywyd o'r funud honno ymlaen.

Caiff ei garcharu am ddeunaw mlynedd am losgi eiddo a dynladdiad, ac erbyn iddo gael ei ryddhau mae Cymru yn lle gwahanol iawn, a'i deulu a'i ffrindiau wedi symud ymlaen hebddo. All o ffeindio ei le yn ei hen gymuned, neu oes raid iddo ddechrau o'r newydd a rhoi ei hen ddaliadau a'i gredoau o'r neilltu?