CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370
Awdur: Meirion Jones
ISBN: 9781800996434
Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2024
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Golygwyd gan Cedron Sion
Fformat: Clawr Caled, 225x240 mm, 156 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr o ddarluniau yw'r un dan sylw, sef gwaith a sbardunwyd yn y Batagonia Gymraeg adeg blwyddyn y dathlu yn 2015. Gyferbyn â phob delwedd mae ymateb ysgrifenedig gan drigolion a Chymry sy'n adnabod Patagonia yn dda. Ceir cyfraniad gan drawstoriad o bobl sy'n creu naws naturiol a difyr i'r llyfr, ac mae tinc Patagonaidd i nifer o'r darnau. Byddai hwn yn gweithio fel 'llyfr bwrdd coffi'.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
‘Bu Meirion yn athro am ddegawd cyn iddo benderfynu newid gyrfa i fod yn arlunydd yn 2002. Mae’n hanu o Ddyfed, ac mae’r mwyafrif helaeth o’i waith wedi’i ddylanwadu gan y rhan honno o Gymru. America Ladin sy’n dylanwadu ar weddill ei waith.
Gan ei fod wedi cael ei fagu yn Aberteifi, roedd yr arfordir bob amser gerllaw, ac mae’n ymddangos bod dŵr wedi treiddio i’w ymwybod i’r un graddau ac y cafodd gweledigaeth ddaearol ei dad ei llunio gan fagwraeth ar fferm fynydd.’ (dyfyniad o eiddo Galeri Betws y Coed)