CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Naill yng Ngwlad y Llall - Taith Gwyddel yng Nghymru; Taith Cymry yn Iwerddon

Angharad Tomos

Y Naill yng Ngwlad y Llall - Taith Gwyddel yng Nghymru; Taith Cymry yn Iwerddon

Pris arferol £9.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Angharad Tomos

ISBN: 9781845278519
Dyddiad Cyhoeddi: 18 Mai 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 196 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn yr 1930au, gwnaed dwy daith mewn dwy wlad - Gwyddel yng Nghymru a Chymro yn Iwerddon - a dyna ddeunydd Y Naill yng Ngwlad y Llall. Am y tro cyntaf, mae'r ddwy daith yn cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd. Mae'r dulliau o deithio ac o dderbyn caredigrwydd pobl y wlad yn ddiddorol, ac mae argraffiadau'r naill o wlad y llall yn berthnasol iawn o hyd.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
Cyhoeddodd y Gwyddel Seosamh Mac Grianna gyfrol Wyddeleg am ei ymweliad â Chymru - ac mae'n cael ei chyfri'n glasur yn yr iaith honno. Wrth ddarllen cyfieithiad Saesneg Michael O hAodha ohoni, atgoffodd hynny Angharad Tomos o gyfrol Gymraeg oedd yn ei meddiant: ‘Yn Haf 1939, aeth fy nhaid ar daith feics efo'i blant i Iwerddon am dair wythnos gan gadw dyddiadur o'r daith.'