CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Academi Mr Dŵm

Jon Gower

Academi Mr Dŵm

Pris arferol £5.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Jon Gower

ISBN: 9781845216993
Dyddiad Cyhoeddi: 25 Chwefror 2019
Cyhoeddwr: CAA Cymru, Aberystwyth
Golygwyd gan Delyth Ifan
Fformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 94 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel wreiddiol, garlamus ar gyfer yr arddegau cynnar, gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru. Mae pethau wedi newid ers sefydlu Academi Mr Dŵm. Er gwell i rai, er gwaeth i Daf. Ond yn ffodus i Daf, mae ei ffrind, Heti, yn gallu cyfathrebu â phob anifail dan haul. Gyda chymorth system ddiogelwch yr academi – teigr anferth – mae Heti'n mynd ati i geisio achub Daf.

Gwybodaeth Bellach:
* Nofel wreiddiol, llawn hiwmor ar gyfer darllenwyr hŷn (12-14 oed), gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru;
* Gellir ei darllen yn annibynnol er mwyn mwynhad, neu ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 3;
* Mae pecyn digidol am ddim ar wefan Hwb, sy’n cynnwys cwestiynau i gyd-fynd â’r nofel. Bydd y nofel yn helpu dysgwyr i fwynhau darllen drwy ganfod, dethol a defnyddio gwybodaeth yn ogystal ag ymateb i’r hyn a ddarllenwyd mewn modd ysgogol – bydd hyn yn arwain at ddealltwriaeth o astudio’r nofel fel cyfrwng rhyddiaith ac yn ymateb i fanyleb newydd TGAU 2016 maes o law.