CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Arwyddo Drwy'r Flwyddyn - 12 o Ganeuon i Blant

Meilyr Wyn

Arwyddo Drwy'r Flwyddyn - 12 o Ganeuon i Blant

Pris arferol £14.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Meilyr Wyn

ISBN: 9781908801159 
Dyddiad Cyhoeddi: 07 Mai 2019
Cyhoeddwr: Curiad, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 48 tudalen
Iaith: Cymraeg

12 o ganeuon gwreiddiol Cymraeg am fisoedd y flwyddyn gyda lluniau a symbolau arwyddo i gyd-fynd â'r caneuon. Maent yn addas ar gyfer dosbarth cymysg o blant, gan gynnig cyfle i'r rhai sydd ag anghenion arbennig, neu s'n methu canu, i fod yn rhan o'r gweithgaredd dosbarth. Llyfr 48 tudalen, gyda CD yn gynwysedig.

Gwybodaeth Bellach:
Yn gerddor eithriadol ddawnus, mae Meilyr Wyn hefyd yn ddirprwy-brifathro profiadol mewn ysgol i blant ag anghenion arbennig ac wedi creu yr adnodd arbennig hwn i lenwi bwlch gan nad oes adnodd tebyg i'w gael ar hyn o bryd! Mae CD yn dod efo'r llyfr gyda traciau o'r caneuon sydd wedi eu hargraffu yn y llyfr. Bydd yr adnodd hwn yn addas i blant cynradd o bob gallu, a bydd y caneuon cofiadwy yn ddefnyddiol wrth ddewis themâu misol i'w cyflwyno i'r dosbarth, e.e. mae cân mis Ionawr yn sôn am Santes Dwynwen.