CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370
Awdur: Pryderi Gwyn Jones
ISBN: 9781845277772
Dyddiad Cyhoeddi: 10 Mawrth 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan Huw Richards
Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dilyniant i Brenin y Trenyrs. Mae Brenin y Trenyrs wedi stopio prynu bwyd yn yr ysgol er mwyn cynilo arian i brynu'r trenyrs mwyaf cŵl yn y byd. Mae ganddo ei lygad ar wobr fwy hefyd sef mynd ar daith i bencadlys rhyngwladol cwmni adidas yn yr Almaen!
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Er iddo gael ei eni yn Aberystwyth, magwyd PRYDERI GWYN JONES yn Llansannan, Dyffryn Clwyd ac ym Mangor. Wedi cyfnod yn teithio de America ac Ewrop, symudodd i'r canolbarth wedi iddo briodi merch o Lanbryn-mair, a bellach mae'n dad i ddwy o ferched. Treulia ei ddyddiau ym Maldwyn yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Caereinion, ac ymddiddora'n fawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêldroed! Ymhlith ei lwyddiannau eisteddfodol mae coron Eisteddfod Powys 2004 a 2011, a Stôl Stomp Tegeingl 2012. Hon yw ei ail nofel.
Gwybodaeth Bellach:
Aeth Brenin y Trenyrs yn denau iawn ar ôl peidio bwyta dim byd amser cinio am fisoedd, dim ond darn o grystyn a hanner banana o'r gegin. Roedd yn eu smyglo nhw'n slei bach i'r ysgol bob dydd, i gynilo'i bres cinio i brynu'r sgidiau fwyaf cŵl erioed, adidas ZX1000000. Ond mae 'na wobr hyd yn oed yn fwy i'w hennill y tro hwn. Cyfle am daith fythgofiadwy i bencadlys cwmni adidas yn yr Almaen, a £1000 o bunnoedd i wario yno! Viel Glück Brenin y Trenyrs!