CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

Elidir Jones

Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Elidir Jones

ISBN: 9781912261758 
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Awst 2019
Cyhoeddwr: Atebol, Aberystwyth
Darluniwyd gan Huw Aaron
Fformat: Clawr Meddal, 185x131 mm, 264 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc - ac i unrhyw un hyn sy'n hoff o antur. Mae bwystfil yn bygwth y wlad - creadur yn syth o ganol hunllef - Yr Horwth.

Bywgraffiad Awdur:
ELIDIR JONES:
Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a Cynefin. Ers 2004, mae'n chwarae'r gitâr fas i'r band Plant Duw, ac mae'n un o sylfaenwyr y wefan fideowyth.com. Erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i gi mewn tŷ llawn llyfrau.

HUW AARON:
Mae Huw Aaron yn gartwnydd ac yn ddarlunydd o Gaerdydd. Gellir gweld ei waith mewn nifer fawr o lyfrau i blant. Mae hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd at gylchgrawn Mellten, Private Eye, The Oldie a The Spectator.
Gwybodaeth Bellach:
"Yng nghysgodion yr ogof roedd yr Horwth yn cuddio."
Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae'r llwybr yn arwain at y Copa Coch - mynydd sy'n taflu cysgod brawychus dros y tir... ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i'r teithwyr eu datgelu.
• Llyfr wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng Elidir Jones a Huw Aaron
• 40+ o luniau du a gwyn gan Huw Aaron
• Perffaith i'r rheiny sy'n mwynhau darllen The Edge Chronicles (Paul Stewart / Chris Riddell) neu'r gyfres Redwall (Brian Jacques), neu sy'n hoff o drysor, bwystfilod ac antur.