Awdur: Lleucu Roberts
ISBN: 9781784616533
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Hydref 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Hadau wedi ei gosod yn y dyfodol ar ôl i fom niwcliar ddinistrio gorllewin Ewrop. Roedd Cymry wedi sefydlu cymuned mewn ynys ger Norwy a Cai a Gwawr wedi eu magu yno. Maen nhw erbyn hyn wedi cyrraedd tref Aberystwyth yn yr henwlad (Cymru) ac yn dod o hyd i lwyth cyntefig sydd yn prysur rhedeg mas o fwyd a hadau i dyfu cnydau.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Lleucu Roberts yn awdures doreithiog sydd wedi cyhoeddi nifer o nofelau i bobl ifainc ac oedolion. Mae'n byw yn Rhostryfan ger Caernarfon ond mae'n wreiddiol o Landre ger Aberystwyth. Mae Lleucu wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Tir na n-Og, y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.
Gwybodaeth Bellach:
Ond a fyddan nhw'n fodlon derbyn help gan y dieithriaid?
Dyma'r ail nofel yn y drioleg YMA, wedi ei hanelu at oedolion ifanc, 14+ oed, Cyfnod Allweddol 4.
Nofel antur, wedi ei lleoli yn Aberystwyth y dyfodol, gyda chyfeillgarwch, cariad, teyrngarwch a dewrder yn themâu canolog.