Awdur: Elgan Philip Davies
ISBN: 9781847714589
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Mehefin 2012
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae'r stori'n dechrau'n gyffrous gyda llofruddiaeth Juan Borgia cyn y datgelir i'r darllenydd gael ei dwyllo a bod Alun, y prif gymeriad, mewn gwirionedd yn chwarae gêm gyfrifiadurol o'r enw Assassin's Creed. Cyflwynir y berthynas gyfeillgar a chwareus rhwng Alun a'i ddat-cu (y mae'n rhannu ei enw ag ef).
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Elgan Phillip Davies ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion. Mae'n ymddiddori mewn hanes a chwedloniaeth.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Alun ym cael codwm wrth helpu dat-cu, ac yn sgil y ddamwain, ceir ei ddwyn o fyd cyffrous a threisgar, ond saff, gemau cyfrifiadurol yr oes hon yn ôl i 1961 ble caiff y cyfle i fod yn fwy corfforol a mentrus trwy ddringo coed a saethu gynau go iawn.
Yn y diweddglo twymgalon datgelir i ni mai Alun ‘yr oes hon’ enillodd yr injan stêm y mae dat-cu yn ei thrysori ac fe’i welir yn mynd ati am y tro cynta’ i ddarllen hoff lyfr dat-cu, sef Trysor y Môr-ladron gan T. Llew Jones.