CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Drws Du yn Nhonypandy

Myrddin ap Dafydd

Drws Du yn Nhonypandy

Pris arferol £7.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Myrddin ap Dafydd

ISBN: 9781845277307
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 244 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel am deuluoedd y glo, Cwm Rhondda. Yn y nofel hon, cawn hanes teulu'r Lewis, teulu o lowyr yn y cwm. Y flwyddyn yw 1910, cyfnod cythryblus ym mrwydr y glowyr i sicrhau cyflog ac amodau teg yn y gwaith. Mae'r helyntion yn ffrwydro o'r pwll glo i dref ifanc a bywiog Tonypandy.

Gwybodaeth Bellach:
Ar un adeg, roedd llongau a rheilffyrdd y byd yn gweiddi am lo di-fwg i gynhyrchu stêm – ac roedd digonedd o hwnnw yng Nghwm Rhondda o’r safon gorau yn y byd. Agorwyd degau o byllau glo. Llifodd y gweithwyr i’r cwm. Crewyd cyfoeth mawr ... – ond nid i bawb.
Down i adnabod teulu o Eidalwyr sy’n cadw caffi ar y stryd fawr. Mae’r angen am arian at fyw wedi taflu pobl o sawl cefndir at ei gilydd, sy’n arwain at gyfeillgarwch a gwrthdaro ...