CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Henriét y Syffrajét

Angharad Tomos

Henriét y Syffrajét

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Angharad Tomos

ISBN: 9781845276515
Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2018
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 226 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r stori'n mynd â ni i'r carchar, i gell merch ar streic newyn sy'n cael ei gorfodi i dderbyn bwyd drwy diwb drwy'i thrwyn. Awn i ganol cyffro gweithredoedd y Suffrajéts yn Llundain. Ond down hefyd i bentref chwarel yng ngogledd Cymru lle mae dwy o ferched ifanc yr ardal yn cael eu cyffwrdd gan y cyffro a'r syniadau newydd...

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:

"Rhain ydi'r dyddiau rydan ni'n byw ynddyn nhw. Nid fi ddewisodd nhw."
Hogan beryg ydi Henriét - hi a'i ffrind, Gladys.
Maen nhw'n chwarae efo tân, yn erlid Lloyd George, yn herio'r Drefn ac yn cael eu taflu i garchar.
PAM?
Merched ydyn nhw, a does ganddyn nhw ddim pleidlais.
Pa mor bell fyddech chi'n mynd dros yr hyn a gredwch?
Gwybodaeth Bellach:
"Dydw i ddim eisiau dweud y stori..." Dyna eiriau annisgwyl Henriét, prif gymeriad y nofel hon am yr ymgyrch i ennill pleidlais i ferched ychydig dros gan mlynedd yn ôl.
Oes, mae disgrifiadau o gam-drin merched yma. Ond, fel y dywed Henriét, mae'n bwysig ein bod yn gwybod - "Dim ond drwy adrodd y stori mae modd i chi ddeall, felly mae'n rhaid i mi fynd ymlaen."