Addasiad o'r llyfr The Boy in the Striped Pyjamas a ddaeth yn destun ffilm gofiadwy yn ddiweddar. Stori ingol am ddarn o hanes na ddylid byth ei anghofio. Llyfr dadlennol am gyfeillgarwch ac am greulondeb rhyfel. Chlywodd Bruno, sy'n naw oed, erioed sôn am yr Ateb Terfynol na'r Holocost. Does ganddo ddim syniad fod ei wlad yn gwneud pethau mor greulon i bobl Ewrop. Adargraffiad.
Gwybodaeth Bellach:
Chlywodd Bruno, sy’n naw oed, erioed sôn am yr Ateb Terfynol na’r Holocost. Does ganddo ddim syniad fod ei wlad yn gwneud pethau mor greulon i bobl Ewrop. Yr unig beth sydd wedi digwydd i Bruno yw gorfod gadael ei gartref braf yn Berlin i fynd i fyw i dŷ mewn ardal anial, ddiffaith – lle heb ddim byd i’w wneud yno na neb i chwarae efo nhw chwaith.
Ond yna mae’n cyfarfod Shmuel, hogyn sy’n byw yr ochr draw i’r ffens weiren ar derfyn yr ardd ac sydd bob amser yn gwisgo pyjamas. Bydd cyfeillgarwch Bruno a Shmuel yn deffro Bruno o’i ddiniweidrwydd, ond nid yw’n deall yn iawn beth sy’n digwydd o’i gwmpas. Wrth geisio dod o hyd i’r gwirionedd, bydd yntau’n cael ei gynnwys yng nghynllun ofnadwy ei wlad.
Stori ryfeddol am ddarn o hanes na ddylid byth ei anghofio. Llyfr cofiadwy, pwysig am gyfeillgarwch ac am greulondeb rhyfel – bellach ar gael mewn sawl iaith ar hyd a lled y byd i gyd.