CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Adar Mud

Sian Rees

Adar Mud

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Sian Rees

ISBN: 9781845278601
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 228 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel ddirdynnol yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol. A'r Ail Ryfel Byd yn tynnu tuag at ei derfyn, doedd trigolion Oradur-sur-Glane ddim wedi profi fawr o'i effaith. Anaml y gwelid milwr Almaenig yn y pentref, er bod aelodau'r 'Resistance' yn gweithio'n gudd yn y cefndir i sicrhau llwyddiant y Cynghreiriaid yn erbyn y Natsiaid. Ond ar Fehefin 10fed, newidiodd popeth...

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Sian Rees ei magu yn y Rhyl ac mae bellach wedi ymgartrefu ger Conwy. Yn fam i dri, yn nain i bump ac yn gyn-athrawes, mae’n mwynhau ysgrifennu, garddio a theithio. Hon yw ei thrydedd nofel.

Gwybodaeth Bellach:
‘Mi wnawn ni ddial, ac mi fydd yn ddial nad anghofian nhw byth.’
Ffrainc, Mehefin 1944

A’r Ail Ryfel Byd yn tynnu tuag at ei derfyn, doedd trigolion Oradour-sur-Glane yn ardal Haute-Vienne ddim wedi profi fawr o’i effaith. Anaml iawn y gwelid milwr Almaenig yn y pentref, ond roedd aelodau’r Resistance yn gweithio’n gudd yn y cefndir i sicrhau llwyddiant y Cynghreiriaid yn erbyn y Natsïaid.
Ond bnawn Sadwrn, Mehefin 10fed, newidiodd popeth...