CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Ar Lwybr Dial

Alun Davies

Ar Lwybr Dial

Pris arferol £8.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Alun Davies

ISBN: 9781784618698
Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 180 tudalen
Iaith: Cymraeg

Llygad am lygad, a dant am ddant? Ydy pobol sydd wedi tramgwyddo yn haeddu cael eu cosbi? Mae yna un llofrudd sy'n credu hynny ac mae yna gyrff yn cael eu canfod mewn amgylchiadau rhyfedd a gwaedlyd. A all Taliesin MacLeavy ei ddal cyn i fwy o bobol farw?

Bywgraffiad Awdur:
Mae'r awdur yn beirianydd meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghoriaeth ei hun - deeg consultancy - yn cynnig gwasanaeth technoleg y we a chyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ef ar Twitter -@ardrywyddllofrudd. Cafodd y nofel gyntaf ganmoliaeth gan ddarllenwyr ac adolygwyr.
Gwybodaeth Bellach:
Ar Lwybr Dial yw'r ail nofel yn nhrioleg y ditectif Taliesin MacLeavy. Fel y cyntaf, Ar Drywydd Llofrudd, a gyhoeddwyd yn Hydref 2018, mae hon wedi ei lleoli yn nhref Aberystwyth. Mae'n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi sy'n boblogaidd tu hwnt.
Mae Taliesin yn cael ei bartneru â Siwan Mathews, ditectif profiadol sydd newydd ddychwelyd i'w gwaith ar ôl sawl blwyddyn yn magu teulu. Eu hachos cyntaf yw ymchwiliad i sawl lladrad ym mhentref Borth. Wrth ymweld â'r tai i ail-gyfweld y perchnogion, mae Taliesin a Siwan yn dod ar draws golygfa ofnadwy: y ddau berchennog yn gelain ac wedi eu gosod o gwmpas y bwrdd bwyd.