CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Arwyr

Daniel Davies

Arwyr

Pris arferol £8.00
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Daniel Davies

ISBN: 9781845276584 
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2018
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Medi 2018
Dyma nofel ddadlennol a dychanol am rai o'r digwyddiadau a'r arwyr a ffurfiodd ein cenedl, a gwibdaith i'r dyfodol agos lle mae annibyniaeth i Gymru o fewn cyrraedd.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mhenrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ymysg ei nofelau mae Gwylliaid Glyndŵr (2007), Hei-Ho! (2009) ac Allez Les Gallois! (2016). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anhrefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro yn 2011, a daeth Yr Eumenides (cyhoeddwyd 2017) yn agos i’r brig yn yr un gystadleuaeth yn 2016.


Gwybodaeth Bellach:
Mae hanes arwyr Cymru yn wybyddus i ni i gyd ... on’d yw e?
• Beth oedd ffawd y pedwar a ddychwelodd o Gatraeth yn dilyn cyflafan y Gododdin?
• Pwy oedd yn gyfrifol am Gyfraith Hywel Dda mewn gwirionedd?
• Beth oedd cyfrinach llwyddiant y bardd Dafydd ap Gwilym?
• ... heb sôn am Llywelyn ein Llyw Olaf, William Morgan a Merched Beca ...